Mathew 27:1-56
Mathew 27:1-56 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaeth yn ddydd, cynllwyniodd yr holl brif offeiriaid a henuriaid y bobl yn erbyn Iesu i'w roi i farwolaeth. Rhwymasant ef a mynd ag ef ymaith a'i drosglwyddo i Pilat, y rhaglaw. Yna pan welodd Jwdas, ei fradychwr, fod Iesu wedi ei gondemnio, bu'n edifar ganddo ac aeth â'r deg darn arian ar hugain yn ôl at y prif offeiriaid a'r henuriaid. Dywedodd, “Pechais trwy fradychu dyn dieuog.” “Beth yw hynny i ni?” meddent hwy. “Rhyngot ti a hynny.” A thaflodd Jwdas yr arian i lawr yn y deml ac ymadael; aeth ymaith, ac fe'i crogodd ei hun. Wedi iddynt dderbyn yr arian, dywedodd y prif offeiriaid, “Nid yw'n gyfreithlon ei roi yn nhrysorfa'r deml, gan mai pris gwaed ydyw.” Ac wedi ymgynghori, prynasant Faes y Crochenydd â'r arian, fel mynwent i ddieithriaid. Dyna pam y gelwir y maes hwnnw hyd heddiw yn Faes y Gwaed. Felly y cyflawnwyd y gair a lefarwyd trwy Jeremeia'r proffwyd: “Cymerasant y deg darn arian ar hugain, pris y sawl y rhoddodd rhai o blant Israel bris arno, a'u gwario i brynu maes y crochenydd, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi.” Safodd Iesu gerbron y rhaglaw; a holodd y rhaglaw ef: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd Iesu, “Ti sy'n dweud hynny.” A phan gyhuddwyd ef gan y prif offeiriaid a'r henuriaid, nid atebodd ddim. Yna meddai Pilat wrtho, “Onid wyt yn clywed faint o dystiolaeth y maent yn ei dwyn yn dy erbyn?” Ond ni roes ef iddo ateb i gymaint ag un cyhuddiad, er syndod mawr i'r rhaglaw. Ar yr ŵyl yr oedd y rhaglaw yn arfer rhyddhau i'r dyrfa un carcharor o'u dewis hwy. A'r pryd hwnnw yr oedd carcharor adnabyddus yn y ddalfa, o'r enw Iesu Barabbas. Felly, wedi iddynt ymgynnull, gofynnodd Pilat iddynt, “Pwy a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi, Iesu Barabbas ynteu Iesu a elwir y Meseia?” Oherwydd gwyddai mai o genfigen y traddodasant ef. A thra oedd Pilat yn eistedd ar y brawdle anfonodd ei wraig neges ato, yn dweud, “Paid â chael dim i'w wneud â'r dyn cyfiawn yna, oherwydd cefais lawer o ofid mewn breuddwyd neithiwr o'i achos ef.” Ond perswadiodd y prif offeiriaid a'r henuriaid y tyrfaoedd i ofyn am ryddhau Barabbas a rhoi Iesu i farwolaeth. Atebodd y rhaglaw gan ofyn iddynt, “P'run o'r ddau a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi?” “Barabbas,” meddent hwy. “Beth, ynteu, a wnaf â Iesu a elwir y Meseia?” gofynnodd Pilat iddynt. Atebasant i gyd, “Croeshoelier ef.” “Ond pa ddrwg a wnaeth ef?” meddai yntau. Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, “Croeshoelier ef.” Pan welodd Pilat nad oedd dim yn tycio ond yn hytrach bod cynnwrf yn codi, cymerodd ddŵr, a golchodd ei ddwylo o flaen y dyrfa, a dweud, “Yr wyf fi'n ddieuog o waed y dyn hwn; chwi fydd yn gyfrifol.” Ac atebodd yr holl bobl, “Boed ei waed arnom ni ac ar ein plant.” Yna rhyddhaodd Pilat iddynt Barabbas, a thraddododd Iesu, ar ôl ei fflangellu, i'w groeshoelio. Yna cymerodd milwyr y rhaglaw Iesu i'r Praetoriwm a chynnull yr holl fintai o'i gwmpas. Wedi diosg ei ddillad, rhoesant glogyn ysgarlad amdano; plethasant goron o ddrain a'i gosod ar ei ben, a gwialen yn ei law dde. Aethant ar eu gliniau o'i flaen a'i watwar: “Henffych well, Frenin yr Iddewon!” Poerasant arno, a chymryd y wialen a'i guro ar ei ben. Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y clogyn oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun, a mynd ag ef ymaith i'w groeshoelio. Wrth fynd allan daethant ar draws dyn o Cyrene o'r enw Simon, a gorfodi hwnnw i gario ei groes ef. Daethant i le a elwir Golgotha, hynny yw, “Lle Penglog”, ac yno rhoesant iddo i'w yfed win wedi ei gymysgu â bustl, ond ar ôl iddo ei brofi, gwrthododd ei yfed. Croeshoeliasant ef, ac yna rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren, ac eisteddasant yno i'w wylio. Uwch ei ben gosodwyd y cyhuddiad yn ei erbyn mewn ysgrifen: “Hwn yw Iesu, Brenin yr Iddewon.” Yna croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith. Yr oedd y rhai oedd yn mynd heibio yn ei gablu ef, yn ysgwyd eu pennau ac yn dweud, “Ti sydd am fwrw'r deml i lawr a'i hadeiladu mewn tridiau, achub dy hun, os Mab Duw wyt ti, a disgyn oddi ar y groes.” A'r un modd yr oedd y prif offeiriaid hefyd, ynghyd â'r ysgrifenyddion a'r henuriaid, yn ei watwar ac yn dweud, “Fe achubodd eraill; ni all ei achub ei hun. Brenin Israel yn wir! Disgynned yn awr oddi ar y groes ac fe gredwn ynddo. Ymddiriedodd yn Nuw; boed i Dduw ei waredu yn awr, os yw â'i fryd arno, oherwydd dywedodd, ‘Mab Duw ydwyf.’ ” Yr un modd, yr oedd hyd yn oed y lladron a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio. O ganol dydd, daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn. A thua thri o'r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, “Eli, Eli, lema sabachthani”, hynny yw, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?” O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, “Y mae hwn yn galw ar Elias.” Ac ar unwaith fe redodd un ohonynt a chymryd ysbwng a'i lenwi â gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed. Ond yr oedd y lleill yn dweud, “Gadewch inni weld a ddaw Elias i'w achub.” Gwaeddodd Iesu drachefn â llef uchel, a bu farw. A dyma len y deml yn cael ei rhwygo yn ddwy o'r pen i'r gwaelod. Siglwyd y ddaear a holltwyd y creigiau; agorwyd y beddau a chyfodwyd cyrff llawer o'r saint oedd wedi huno. Ac ar ôl atgyfodiad Iesu, daethant allan o'u beddau a mynd i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac fe'u gwelwyd gan lawer. Ond pan welodd y canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylio Iesu, y daeargryn a'r cwbl oedd yn digwydd, daeth ofn mawr arnynt a dywedasant, “Yn wir, Mab Duw oedd hwn.” Yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, rhai oedd wedi canlyn Iesu o Galilea i weini arno; yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, Mair mam Iago a Joseff, a mam meibion Sebedeus.
Mathew 27:1-56 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn gynnar iawn yn y bore, dyma’r holl brif offeiriaid a’r arweinwyr Iddewig eraill yn penderfynu fod rhaid i Iesu gael ei ddedfrydu i farwolaeth. Felly, dyma nhw’n ei rwymo a’i drosglwyddo i Peilat, y llywodraethwr. Pan sylweddolodd Jwdas, y bradwr, fod Iesu’n mynd i gael ei ddienyddio, roedd yn edifar am beth wnaeth e. Aeth â’r tri deg darn arian yn ôl i’r prif offeiriaid a’r arweinwyr. “Dw i wedi pechu;” meddai, “dw i wedi bradychu dyn cwbl ddieuog.” “Sdim ots gynnon ni,” medden nhw, “Dy gyfrifoldeb di ydy hynny.” Felly dyma Jwdas yn taflu’r arian ar lawr y deml a mynd allan a chrogi ei hun. Dyma’r prif offeiriaid yn codi’r darnau arian. “Allwn ni ddim rhoi’r arian yma yn nhrysorfa’r deml. Mae yn erbyn y Gyfraith i dderbyn arian gafodd ei dalu am ladd rhywun.” Felly dyma nhw’n cytuno i ddefnyddio’r arian i brynu Maes y Crochenydd fel mynwent i gladdu pobl oedd ddim yn Iddewon. A dyna pam mai ‘Maes y Gwaed’ ydy’r enw arno hyd heddiw. A dyna sut daeth geiriau’r proffwyd Jeremeia yn wir: “Dyma nhw’n cymryd y tri deg darn arian (dyna oedd ei werth yng ngolwg pobl Israel), a phrynu maes y crochenydd, fel roedd yr Arglwydd wedi dweud.” Yn y cyfamser, roedd Iesu’n sefyll ei brawf o flaen y llywodraethwr Rhufeinig. Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?” “Ti sy’n dweud,” atebodd Iesu. Ond pan oedd y prif offeiriaid a’r arweinwyr yn cyflwyno eu hachos yn ei erbyn, roedd Iesu’n gwrthod ateb. A dyma Peilat yn gofyn iddo, “Wyt ti ddim yn clywed y cyhuddiadau yma sydd ganddyn nhw yn dy erbyn di?” Ond wnaeth Iesu ddim ateb hyd yn oed un cyhuddiad. Doedd y peth yn gwneud dim sens i’r llywodraethwr. Adeg y Pasg roedd hi’n arferiad gan y llywodraethwr i ryddhau un carcharor – un roedd y dyrfa’n ei ddewis. Ar y pryd, roedd un carcharor roedd pawb yn gwybod amdano – dyn o’r enw Barabbas. Felly pan oedd y dyrfa wedi ymgasglu, dyma Peilat yn gofyn iddyn nhw, “Pa un o’r ddau dych chi am i mi ei ollwng yn rhydd? Barabbas? neu Iesu, yr un sy’n cael ei alw ‘Y Meseia’?” (Roedd yn gwybod yn iawn eu bod wedi arestio Iesu am eu bod yn genfigennus ohono.) Roedd Peilat yno’n eistedd yn sedd y barnwr pan ddaeth neges iddo oddi wrth ei wraig: “Mae’r dyn yna’n ddieuog – paid gwneud dim byd iddo. Ces i hunllef ofnadwy amdano neithiwr.” Ond roedd y prif offeiriaid a’r arweinwyr Iddewig wedi bod yn perswadio’r dyrfa i ofyn am ryddhau Barabbas, er mwyn gwneud yn siŵr fod Iesu’n cael ei ddienyddio. Gofynnodd y llywodraethwr eto, “Pa un o’r ddau yma dych chi eisiau i mi ei ryddhau?” Dyma nhw’n ateb, “Barabbas!” “Felly, beth dw i i’w wneud gyda’r Iesu yma, sy’n cael ei alw ‘Y Meseia’?” Dyma nhw i gyd yn gweiddi, “Ei groeshoelio!” “Pam?” meddai Peilat, “Beth mae e wedi’i wneud o’i le?” Ond dyma nhw’n dechrau gweiddi’n uwch, “Croeshoelia fe!” Dyma Peilat yn gweld fod dim pwynt cario ymlaen am fod y dyrfa’n dechrau cynhyrfu. Felly galwodd am ddŵr, a golchi ei ddwylo o flaen pawb. “Dim fi sy’n gyfrifol am ladd y dyn yma,” meddai. “Chi sy’n gyfrifol!” Dyma’r bobl yn ateb gyda’i gilydd, “Iawn, ni fydd yn gyfrifol am y peth – ni a’n plant!” Felly dyma Peilat yn rhyddhau Barabbas iddyn nhw. Wedyn gorchmynnodd fod Iesu i gael ei chwipio, ac yna ei ddedfrydu i gael ei groeshoelio. Dyma filwyr Rhufeinig yn mynd â Iesu i’r palas (Pencadlys y llywodraethwr), a galw’r holl fintai i gasglu o’i gwmpas. Dyma nhw’n tynnu ei ddillad a rhoi clogyn ysgarlad amdano, plethu drain i wneud coron i’w rhoi ar ei ben, rhoi gwialen yn ei law dde a phenlinio o’i flaen a gwneud hwyl am ei ben. “Eich mawrhydi! Brenin yr Iddewon!” medden nhw. Roedden nhw’n poeri arno, ac yn ei daro ar ei ben dro ar ôl tro gyda’r wialen. Pan oedden nhw wedi blino cael sbort, dyma nhw’n tynnu’r clogyn oddi arno a’i wisgo yn ei ddillad ei hun unwaith eto. Wedyn dyma nhw’n ei arwain allan i gael ei groeshoelio. Ar eu ffordd allan, daeth dyn o Cyrene o’r enw Simon i’w cyfarfod, a dyma’r milwyr yn ei orfodi i gario croes Iesu. Ar ôl cyrraedd y lle sy’n cael ei alw yn Golgotha (sef ‘Lle y Benglog’), dyma nhw’n cynnig diod o win wedi’i gymysgu gyda chyffur chwerw i Iesu, ond ar ôl ei flasu gwrthododd Iesu ei yfed. Ar ôl ei hoelio ar y groes, dyma nhw’n gamblo i weld pwy fyddai’n cael ei ddillad. Wedyn dyma nhw’n eistedd i lawr i gadw golwg arno. Roedd arwydd uwch ei ben yn dweud beth oedd y cyhuddiad yn ei erbyn: DYMA IESU – BRENIN YR IDDEWON. Cafodd dau leidr eu croeshoelio yr un pryd, un bob ochr iddo. Roedd y bobl oedd yn pasio heibio yn gwneud sbort am ei ben, ac yn hyrddio enllibion ato, “Felly! Ti sy’n mynd i ddinistrio’r deml a’i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod? Tyrd yn dy flaen! Achub dy hun! Tyrd i lawr o’r groes yna, os mai ti ydy Mab Duw go iawn!” Roedd y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith a’r arweinwyr Iddewig eraill yno hefyd yn cael sbort ymhlith ei gilydd. “Roedd e’n achub pobl eraill,” medden nhw, “ond dydy e ddim yn gallu achub ei hun! Beth am iddo ddod i lawr oddi ar y groes yna, os mai Brenin Israel ydy e! Gwnawn ni gredu wedyn! Mae’n dweud ei fod e’n trystio Duw, gadewch i ni weld Duw yn ei achub e! Onid oedd e’n dweud ei fod yn Fab Duw?” Roedd hyd yn oed y lladron gafodd eu croeshoelio gydag e yn ei sarhau a’i enllibio. O ganol dydd hyd dri o’r gloch y p’nawn aeth yn hollol dywyll drwy’r wlad i gyd. Yna am dri o’r gloch gwaeddodd Iesu’n uchel, “Eli! Eli! L’ma sabachtâni?” – sy’n golygu, “Fy Nuw! fy Nuw! Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?” Pan glywodd rhai o’r bobl oedd yn sefyll yno hyn, medden nhw, “Mae’n galw ar y proffwyd Elias am help.” Dyma un ohonyn nhw’n rhedeg ar unwaith i nôl ysbwng, a’i drochi mewn gwin sur rhad. Yna fe’i cododd ar flaen ffon i’w gynnig i Iesu ei yfed. Ond dyma’r lleill yn dweud, “Gad lonydd iddo, i ni gael gweld os daw Elias i’w achub.” Yna ar ôl gweiddi’n uchel eto, dyma Iesu’n marw. Dyna’n union pryd wnaeth y llen oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner o’r top i’r gwaelod. Roedd y ddaear yn crynu a’r creigiau yn hollti, a chafodd beddau eu hagor. (Ar ôl i Iesu ddod yn ôl yn fyw cododd cyrff llawer iawn o bobl dduwiol allan o’u beddau, a mynd i mewn i Jerwsalem, y ddinas sanctaidd, a gwelodd lot fawr o bobl nhw.) Dyma’r daeargryn a phopeth arall ddigwyddodd yn dychryn y capten Rhufeinig a’r milwyr oedd wedi bod yn cadw golwg ar Iesu, ac medden nhw, “Mab Duw oedd e, reit siŵr!” Roedd nifer o wragedd wedi bod yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell. Roedden nhw wedi dilyn Iesu yr holl ffordd o Galilea i ofalu fod ganddo bopeth oedd arno’i angen. Roedd Mair Magdalen yn un ohonyn nhw, Mair mam Iago a Joseff, a mam Iago ac Ioan (sef gwraig Sebedeus) hefyd.
Mathew 27:1-56 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddaeth y bore, cydymgynghorodd yr holl archoffeiriaid, a henuriaid y bobl, yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth. Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i traddodasant ef i Pontius Peilat y rhaglaw. Yna pan welodd Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i’r archoffeiriaid a’r henuriaid, Gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwythau a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di. Ac wedi iddo daflu’r arian yn y deml, efe a ymadawodd, ac a aeth ac a ymgrogodd. A’r archoffeiriaid a gymerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlon i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa; canys gwerth gwaed ydyw. Ac wedi iddynt gydymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithriaid. Am hynny y galwyd y maes hwnnw, Maes y gwaed, hyd heddiw. (Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremeias y proffwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feibion Israel; Ac a’u rhoesant hwy am faes y crochenydd, megis y gosododd yr Arglwydd i mi.) A’r Iesu a safodd gerbron y rhaglaw: a’r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. A phan gyhuddid ef gan yr archoffeiriaid a’r henuriaid, nid atebodd efe ddim. Yna y dywedodd Peilat wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di? Ac nid atebodd efe iddo i un gair; fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr. Ac ar yr ŵyl honno yr arferai’r rhaglaw ollwng yn rhydd i’r bobl un carcharor, yr hwn a fynnent. Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas. Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd, Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barabbas, ai’r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef. Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych â’r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o’i achos ef. A’r archoffeiriaid a’r henuriaid a berswadiasant y bobl, fel y gofynnent Barabbas, ac y difethent yr Iesu. A’r rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o’r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwythau a ddywedasant, Barabbas. Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i’r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croeshoelier ef. A’r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croeshoelier ef. A Peilat, pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf, a gymerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo gerbron y bobl, gan ddywedyd, Dieuog ydwyf fi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi. A’r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant. Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt: ond yr Iesu a fflangellodd efe, ac a’i rhoddes i’w groeshoelio. Yna milwyr y rhaglaw a gymerasant yr Iesu i’r dadleudy, ac a gynullasant ato yr holl fyddin. A hwy a’i diosgasant ef, ac a roesant amdano fantell o ysgarlad. A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a’i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddeau; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a’i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, brenin yr Iddewon. A hwy a boerasant arno, ac a gymerasant y gorsen, ac a’i trawsant ar ei ben. Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a’i diosgasant ef o’r fantell, ac a’i gwisgasant â’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant ef ymaith i’w groeshoelio. Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a’i enw Simon; hwn a gymellasant i ddwyn ei groes ef. A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, Lle’r benglog, Hwy a roesant iddo i’w yfed, finegr yn gymysgedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed. Ac wedi iddynt ei groeshoelio ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd, Hwy a ranasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren. A chan eistedd, hwy a’i gwyliasant ef yno: A gosodasant hefyd uwch ei ben ef ei achos yn ysgrifenedig, HWN YW IESU, BRENIN YR IDDEWON. Yna y croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy. A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, A dywedyd, Ti yr hwn a ddinistri’r deml, ac a’i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun. Os ti yw Mab Duw, disgyn oddi ar y groes. A’r un modd yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar, gyda’r ysgrifenyddion a’r henuriaid, a ddywedasant, Efe a waredodd eraill, ei hunan nis gall efe ei waredu. Os Brenin Israel yw, disgynned yr awron oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo. Ymddiriedodd yn Nuw; gwareded efe ef yr awron, os efe a’i myn ef: canys efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf. A’r un peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groeshoeliasid gydag ef. Ac o’r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist? A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Eleias. Ac yn y fan un ohonynt a redodd, ac a gymerth ysbwng, ac a’i llanwodd o finegr, ac a’i rhoddodd ar gorsen, ac a’i diododd ef. A’r lleill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Eleias i’w waredu ef. A’r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â’r ysbryd. Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd i waered: a’r ddaear a grynodd, a’r meini a holltwyd: A’r beddau a agorwyd; a llawer o gyrff y saint a hunasent a gyfodasant, Ac a ddaethant allan o’r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer. Ond y canwriad, a’r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a’r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydoedd hwn. Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef: Ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joses, a mam meibion Sebedeus.