Mathew 26:69-75
Mathew 26:69-75 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn y cyfamser, roedd Pedr yn eistedd allan yn yr iard, a dyma un o’r morynion yn dod ato a dweud, “Roeddet ti’n un o’r rhai oedd gyda’r Galilead yna, Iesu!” Ond gwadu’r peth wnaeth Pedr o flaen pawb. “Does gen i ddim syniad am beth wyt ti’n sôn,” meddai. Aeth allan at y fynedfa i’r iard, a dyma forwyn arall yn ei weld yno, a dweud wrth y bobl o’i chwmpas, “Roedd hwn gyda Iesu o Nasareth.” Ond gwadu’r peth wnaeth Pedr eto gan daeru: “Dw i ddim yn nabod y dyn!” Ychydig wedyn, dyma rai eraill oedd yn sefyll yno yn mynd at Pedr a dweud, “Ti’n un ohonyn nhw’n bendant! Mae’n amlwg oddi wrth dy acen di.” Dyma Pedr yn dechrau rhegi a melltithio, “Dw i ddim yn nabod y dyn!” meddai. A’r foment honno dyma’r ceiliog yn canu. Yna cofiodd Pedr beth ddwedodd Iesu: “Byddi di wedi gwadu dy fod di’n fy nabod i dair gwaith cyn i’r ceiliog ganu.” Aeth allan yn beichio crio.
Mathew 26:69-75 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd Pedr yn eistedd y tu allan yn y cyntedd. A daeth un o'r morynion ato a dweud, “Yr oeddit tithau hefyd gyda Iesu'r Galilead.” Ond gwadodd ef o flaen pawb a dweud, “Nid wyf yn gwybod am beth yr wyt ti'n sôn.” Ac wedi iddo fynd allan i'r porth, gwelodd morwyn arall ef a dweud wrth y rhai oedd yno, “Yr oedd hwn gyda Iesu'r Nasaread.” Gwadodd yntau drachefn â llw, “Nid wyf yn adnabod y dyn.” Ymhen ychydig, dyma'r rhai oedd yn sefyll yno yn dod at Pedr ac yn dweud wrtho, “Yn wir yr wyt ti hefyd yn un ohonynt, achos y mae dy acen yn dy fradychu.” Yna dechreuodd yntau regi a thyngu, “Nid wyf yn adnabod y dyn.” Ac ar unwaith fe ganodd y ceiliog. Cofiodd Pedr y gair a lefarodd Iesu, “Cyn i'r ceiliog ganu, fe'm gwedi i deirgwaith.” Aeth allan ac wylo'n chwerw.
Mathew 26:69-75 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Phedr oedd yn eistedd allan yn y llys: a daeth morwynig ato, ac a ddywedodd, A thithau oeddit gydag Iesu y Galilead. Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. A phan aeth efe allan i’r porth, gwelodd un arall ef; a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, Yr oedd hwn hefyd gyda’r Iesu o Nasareth. A thrachefn efe a wadodd trwy lw, Nid adwaen i y dyn. Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, ac a ddywedasant wrth Pedr, Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt; canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo. Yna y dechreuodd efe regi a thyngu, Nid adwaen i y dyn. Ac yn y man y canodd y ceiliog. A chofiodd Pedr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasai wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, ti a’m gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.