Mathew 26:47-50
Mathew 26:47-50 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Wrth iddo ddweud y peth, dyma Jwdas, un o’r deuddeg disgybl, yn ymddangos gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid a’r arweinwyr Iddewig eraill wedi’u hanfon nhw i ddal Iesu. Roedd Jwdas y bradwr wedi trefnu y byddai’n rhoi arwydd iddyn nhw: “Yr un fydda i’n ei gyfarch â chusan ydy’r dyn i’w arestio.” Aeth Jwdas yn syth at Iesu. “Helo Rabbi!”, meddai, ac yna ei gyfarch â chusan. “Gwna be ti wedi dod yma i’w wneud, gyfaill,” meddai Iesu wrtho. Yna gafaelodd y lleill yn Iesu a’i arestio.
Mathew 26:47-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna, tra oedd yn dal i siarad, dyma Jwdas, un o'r Deuddeg, yn dod, a chydag ef dyrfa fawr yn dwyn cleddyfau a phastynau, wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a henuriaid y bobl. Rhoddodd ei fradychwr arwydd iddynt gan ddweud, “Yr un a gusanaf yw'r dyn; daliwch ef.” Ac yn union aeth at Iesu a dweud, “Henffych well, Rabbi”, a chusanodd ef. Dywedodd Iesu wrtho, “Gyfaill, gwna'r hyn yr wyt yma i'w wneud.” Yna daethant a rhoi eu dwylo ar Iesu a'i ddal.
Mathew 26:47-50 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe eto yn llefaru, wele, Jwdas, un o’r deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl. A’r hwn a’i bradychodd ef a roesai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa un bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef. Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Athro; ac a’i cusanodd ef. A’r Iesu a ddywedodd wrtho. Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a’i daliasant ef.