Mathew 26:36-44
Mathew 26:36-44 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Iesu’n mynd gyda’i ddisgyblion i le o’r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i’n mynd draw acw i weddïo.” Aeth â Pedr a dau fab Sebedeus gydag e, a dechreuodd deimlo tristwch ofnadwy a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu. “Mae’r tristwch dw i’n ei deimlo yn ddigon i’m lladd i,” meddai wrthyn nhw, “Arhoswch yma i wylio gyda mi.” Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar ei wyneb ar lawr a gweddïo, “Fy Nhad, gad i’r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd os ydy hynny’n bosib. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw’n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Felly, allech chi ddim cadw golwg gyda mi am un awr fechan? Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi’ch profi. Mae’r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.” Yna aeth i ffwrdd a gweddïo eto, “Fy Nhad, os ydy hi ddim yn bosib cymryd y cwpan chwerw yma i ffwrdd heb i mi yfed ohono, gwna i beth rwyt ti eisiau.” Ond pan ddaeth yn ôl, roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw’n methu’n lân â chadw eu llygaid ar agor. Felly gadawodd nhw a mynd i ffwrdd i weddïo yr un peth eto y drydedd waith.
Mathew 26:36-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna daeth Iesu gyda hwy i le a elwir Gethsemane, ac meddai wrth y disgyblion, “Eisteddwch yma tra byddaf fi'n mynd fan draw i weddïo.” Ac fe gymerodd gydag ef Pedr a dau fab Sebedeus; a dechreuodd deimlo tristwch a thrallod dwys. Yna meddai wrthynt, “Y mae f'enaid yn drist iawn hyd at farw. Arhoswch yma a gwyliwch gyda mi.” Aeth ymlaen ychydig, a syrthiodd ar ei wyneb gan weddïo, “Fy Nhad, os yw'n bosibl, boed i'r cwpan hwn fynd heibio i mi; ond nid fel y mynnaf fi, ond fel y mynni di.” Daeth yn ôl at y disgyblion a'u cael hwy'n cysgu, ac meddai wrth Pedr, “Felly! Oni allech wylio am un awr gyda mi? Gwyliwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi. Y mae'r ysbryd yn barod ond y cnawd yn wan.” Aeth ymaith drachefn yr ail waith a gweddïo, “Fy Nhad, os nad yw'n bosibl i'r cwpan hwn fynd heibio heb i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys di.” A phan ddaeth yn ôl fe'u cafodd hwy'n cysgu eto, oherwydd yr oedd eu llygaid yn drwm. Ac fe'u gadawodd eto a mynd ymaith i weddïo y drydedd waith, gan lefaru'r un geiriau drachefn.
Mathew 26:36-44 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra elwyf a gweddïo acw. Ac efe a gymerth Pedr, a dau fab Sebedeus, ac a ddechreuodd dristáu ac ymofidio. Yna efe a ddywedodd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyda mi. Ac wedi iddo fyned ychydig ymlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Fy Nhad, os yw bosibl, aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf: eto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti. Ac efe a ddaeth at y disgyblion, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Felly; oni allech chwi wylied un awr gyda mi? Gwyliwch a gweddïwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr ysbryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wan. Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddïodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, onis gall y cwpan hwn fyned heibio oddi wrthyf, na byddo i mi yfed ohono, gwneler dy ewyllys di. Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu drachefn: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau. Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddïodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr un geiriau.