Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 26:31-75

Mathew 26:31-75 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

“Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i heno” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydda i’n taro’r bugail, a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.’ Ond ar ôl i mi ddod yn ôl yn fyw, af i o’ch blaen chi i Galilea.” Dyma Pedr yn dweud yn bendant, “Wna i byth droi cefn arnat ti, hyd yn oed os bydd pawb arall yn gwneud hynny!” “Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i’r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di’n fy nabod i.” Ond meddai Pedr, “Na! Wna i byth wadu mod i’n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda ti!” Ac roedd y disgyblion eraill i gyd yn dweud yr un peth. Dyma Iesu’n mynd gyda’i ddisgyblion i le o’r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i’n mynd draw acw i weddïo.” Aeth â Pedr a dau fab Sebedeus gydag e, a dechreuodd deimlo tristwch ofnadwy a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu. “Mae’r tristwch dw i’n ei deimlo yn ddigon i’m lladd i,” meddai wrthyn nhw, “Arhoswch yma i wylio gyda mi.” Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar ei wyneb ar lawr a gweddïo, “Fy Nhad, gad i’r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd os ydy hynny’n bosib. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw’n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Felly, allech chi ddim cadw golwg gyda mi am un awr fechan? Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi’ch profi. Mae’r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.” Yna aeth i ffwrdd a gweddïo eto, “Fy Nhad, os ydy hi ddim yn bosib cymryd y cwpan chwerw yma i ffwrdd heb i mi yfed ohono, gwna i beth rwyt ti eisiau.” Ond pan ddaeth yn ôl, roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw’n methu’n lân â chadw eu llygaid ar agor. Felly gadawodd nhw a mynd i ffwrdd i weddïo yr un peth eto y drydedd waith. Yna daeth yn ôl at ei ddisgyblion a dweud wrthyn nhw, “Dych chi’n cysgu eto? Yn dal i orffwys? Edrychwch! Mae’r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid. Codwch, gadewch i ni fynd! Mae’r bradwr wedi cyrraedd!” Wrth iddo ddweud y peth, dyma Jwdas, un o’r deuddeg disgybl, yn ymddangos gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid a’r arweinwyr Iddewig eraill wedi’u hanfon nhw i ddal Iesu. Roedd Jwdas y bradwr wedi trefnu y byddai’n rhoi arwydd iddyn nhw: “Yr un fydda i’n ei gyfarch â chusan ydy’r dyn i’w arestio.” Aeth Jwdas yn syth at Iesu. “Helo Rabbi!”, meddai, ac yna ei gyfarch â chusan. “Gwna be ti wedi dod yma i’w wneud, gyfaill,” meddai Iesu wrtho. Yna gafaelodd y lleill yn Iesu a’i arestio. Ond yn sydyn, dyma un o ffrindiau Iesu yn tynnu cleddyf allan a tharo gwas yr archoffeiriad. Torrodd ei glust i ffwrdd. “Cadw dy gleddyf!” meddai Iesu wrtho, “Bydd pawb sy’n trin y cleddyf yn cael eu lladd â’r cleddyf. Wyt ti ddim yn sylweddoli y gallwn i alw ar fy Nhad am help, ac y byddai’n anfon miloedd ar filoedd o angylion ar unwaith? Ond sut wedyn fyddai’r ysgrifau sanctaidd sy’n dweud fod rhaid i hyn i gyd ddigwydd yn dod yn wir?” “Ydw i’n arwain gwrthryfel neu rywbeth?” meddai Iesu wrth y dyrfa oedd yno. “Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a’r pastynau yma? Pam wnaethoch chi ddim fy arestio i yn y deml? Rôn i’n eistedd yno bob dydd, yn dysgu’r bobl. Ond mae hyn i gyd wedi digwydd er mwyn i beth mae’r proffwydi’n ei ddweud yn yr ysgrifau sanctaidd ddod yn wir.” Yna dyma’r disgyblion i gyd yn ei adael ac yn dianc. Dyma’r rhai oedd wedi arestio Iesu yn mynd ag e i dŷ Caiaffas yr archoffeiriad, lle roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith a’r arweinwyr eraill wedi dod at ei gilydd. Dyma Pedr yn dilyn o bell nes cyrraedd iard tŷ’r archoffeiriad. Aeth i mewn, ac eistedd i lawr gyda’r swyddogion diogelwch, a disgwyl i weld beth fyddai’n digwydd. Roedd y prif offeiriaid a’r Sanhedrin (hynny ydy yr uchel-lys Iddewig) yn edrych am dystion oedd yn barod i ddweud celwydd am Iesu, er mwyn iddyn nhw ei ddedfrydu i farwolaeth. Ond er i lawer o bobl ddod ymlaen a dweud celwydd amdano, chawson nhw ddim tystiolaeth allen nhw ei ddefnyddio yn ei erbyn. Yn y diwedd dyma ddau yn dod ymlaen a dweud, “Dwedodd y dyn yma, ‘Galla i ddinistrio teml Dduw a’i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod.’” Felly dyma’r archoffeiriad yn codi ar ei draed a dweud wrth Iesu, “Wel, oes gen ti ateb? Beth am y dystiolaeth yma yn dy erbyn di?” Ond ddwedodd Iesu ddim. Yna dyma’r archoffeiriad yn dweud wrtho, “Dw i’n dy orchymyn di yn enw’r Duw byw i’n hateb ni! Ai ti ydy’r Meseia, Mab Duw?” “Ie,” meddai Iesu, “fel rwyt ti’n dweud. Ond dw i’n dweud wrthoch chi i gyd: Rhyw ddydd byddwch chi’n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda’r Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau’r awyr.” Wrth glywed beth ddwedodd Iesu, dyma’r archoffeiriad yn rhwygo’i ddillad. “Cabledd!” meddai, “Pam mae angen tystion arnon ni?! Dych chi i gyd newydd ei glywed yn cablu. Beth ydy’ch dyfarniad chi?” Dyma nhw’n ateb, “Rhaid iddo farw!” Yna dyma nhw’n poeri yn ei wyneb a’i ddyrnu. Roedd rhai yn ei daro ar draws ei wyneb ac yna’n dweud, “Tyrd! Proffwyda i ni, Feseia! Pwy wnaeth dy daro di y tro yna?” Yn y cyfamser, roedd Pedr yn eistedd allan yn yr iard, a dyma un o’r morynion yn dod ato a dweud, “Roeddet ti’n un o’r rhai oedd gyda’r Galilead yna, Iesu!” Ond gwadu’r peth wnaeth Pedr o flaen pawb. “Does gen i ddim syniad am beth wyt ti’n sôn,” meddai. Aeth allan at y fynedfa i’r iard, a dyma forwyn arall yn ei weld yno, a dweud wrth y bobl o’i chwmpas, “Roedd hwn gyda Iesu o Nasareth.” Ond gwadu’r peth wnaeth Pedr eto gan daeru: “Dw i ddim yn nabod y dyn!” Ychydig wedyn, dyma rai eraill oedd yn sefyll yno yn mynd at Pedr a dweud, “Ti’n un ohonyn nhw’n bendant! Mae’n amlwg oddi wrth dy acen di.” Dyma Pedr yn dechrau rhegi a melltithio, “Dw i ddim yn nabod y dyn!” meddai. A’r foment honno dyma’r ceiliog yn canu. Yna cofiodd Pedr beth ddwedodd Iesu: “Byddi di wedi gwadu dy fod di’n fy nabod i dair gwaith cyn i’r ceiliog ganu.” Aeth allan yn beichio crio.

Mathew 26:31-75 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna dywedodd Iesu wrthynt, “Fe ddaw cwymp i bob un ohonoch chwi o'm hachos i heno, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Trawaf y bugail, a gwasgerir defaid y praidd.’ “Ond wedi i mi gael fy nghyfodi af o'ch blaen chwi i Galilea.” Atebodd Pedr ef, “Er iddynt gwympo bob un o'th achos di, ni chwympaf fi byth.” Meddai Iesu wrtho, “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt y bydd i ti heno, cyn i'r ceiliog ganu, fy ngwadu i deirgwaith.” “Hyd yn oed petai'n rhaid imi farw gyda thi,” meddai Pedr wrtho, “ni'th wadaf byth.” Ac felly y dywedodd y disgyblion i gyd. Yna daeth Iesu gyda hwy i le a elwir Gethsemane, ac meddai wrth y disgyblion, “Eisteddwch yma tra byddaf fi'n mynd fan draw i weddïo.” Ac fe gymerodd gydag ef Pedr a dau fab Sebedeus; a dechreuodd deimlo tristwch a thrallod dwys. Yna meddai wrthynt, “Y mae f'enaid yn drist iawn hyd at farw. Arhoswch yma a gwyliwch gyda mi.” Aeth ymlaen ychydig, a syrthiodd ar ei wyneb gan weddïo, “Fy Nhad, os yw'n bosibl, boed i'r cwpan hwn fynd heibio i mi; ond nid fel y mynnaf fi, ond fel y mynni di.” Daeth yn ôl at y disgyblion a'u cael hwy'n cysgu, ac meddai wrth Pedr, “Felly! Oni allech wylio am un awr gyda mi? Gwyliwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi. Y mae'r ysbryd yn barod ond y cnawd yn wan.” Aeth ymaith drachefn yr ail waith a gweddïo, “Fy Nhad, os nad yw'n bosibl i'r cwpan hwn fynd heibio heb i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys di.” A phan ddaeth yn ôl fe'u cafodd hwy'n cysgu eto, oherwydd yr oedd eu llygaid yn drwm. Ac fe'u gadawodd eto a mynd ymaith i weddïo y drydedd waith, gan lefaru'r un geiriau drachefn. Yna daeth at y disgyblion a dweud wrthynt, “A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyma'r awr yn agos, a Mab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo pechaduriaid. Codwch ac awn. Dyma fy mradychwr yn agosáu.” Yna, tra oedd yn dal i siarad, dyma Jwdas, un o'r Deuddeg, yn dod, a chydag ef dyrfa fawr yn dwyn cleddyfau a phastynau, wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a henuriaid y bobl. Rhoddodd ei fradychwr arwydd iddynt gan ddweud, “Yr un a gusanaf yw'r dyn; daliwch ef.” Ac yn union aeth at Iesu a dweud, “Henffych well, Rabbi”, a chusanodd ef. Dywedodd Iesu wrtho, “Gyfaill, gwna'r hyn yr wyt yma i'w wneud.” Yna daethant a rhoi eu dwylo ar Iesu a'i ddal. A dyma un o'r rhai oedd gyda Iesu yn estyn ei law ac yn tynnu ei gleddyf a tharo gwas yr archoffeiriad a thorri ei glust i ffwrdd. Yna dywedodd Iesu wrtho, “Rho dy gleddyf yn ôl yn ei le, oherwydd bydd pawb sy'n cymryd y cleddyf yn marw trwy'r cleddyf. A wyt yn tybio na allwn ddeisyf ar fy Nhad, ac na roddai i mi yn awr fwy na deuddeg lleng o angylion? Ond sut felly y cyflawnid yr Ysgrythurau sy'n dweud mai fel hyn y mae'n rhaid iddi ddigwydd?” A'r pryd hwnnw dywedodd Iesu wrth y dyrfa, “Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan i'm dal i? Yr oeddwn yn eistedd beunydd yn y deml yn dysgu, ac ni ddaliasoch fi. Ond digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid yr hyn a ysgrifennodd y proffwydi.” Yna gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi. Aeth y rhai oedd wedi dal Iesu ag ef ymaith i dŷ Caiaffas yr archoffeiriad, lle'r oedd yr ysgrifenyddion a'r henuriaid wedi dod ynghyd. Canlynodd Pedr ef o hirbell hyd at gyntedd yr archoffeiriad, ac wedi mynd i mewn eisteddodd gyda'r gwasanaethwyr, i weld y diwedd. Yr oedd y prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin yn ceisio camdystiolaeth yn erbyn Iesu, er mwyn ei roi i farwolaeth, ond ni chawsant ddim, er i lawer o dystion gau ddod ymlaen. Yn y diwedd daeth dau ymlaen a dweud, “Dywedodd hwn, ‘Gallaf fwrw i lawr deml Duw, ac ymhen tridiau ei hadeiladu.’ ” Yna cododd yr archoffeiriad ar ei draed a dweud wrtho, “Onid atebi ddim? Beth am dystiolaeth y rhain yn dy erbyn?” Parhaodd Iesu'n fud; a dywedodd yr archoffeiriad wrtho, “Yr wyf yn rhoi siars i ti dyngu yn enw'r Duw byw a dweud wrthym ai ti yw'r Meseia, Mab Duw.” Dywedodd Iesu wrtho, “Ti a ddywedodd hynny; ond rwy'n dweud wrthych: “ ‘O hyn allan fe welwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r Gallu ac yn dyfod ar gymylau'r nef.’ ” Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, “Cabledd! Pa raid i ni wrth dystion bellach? Yr ydych newydd glywed ei gabledd. Sut y barnwch chwi?” Atebasant, “Y mae'n haeddu marwolaeth.” Yna poerasant ar ei wyneb a'i gernodio; trawodd rhai ef a dweud, “Proffwyda i ni, Feseia! Pwy a'th drawodd?” Yr oedd Pedr yn eistedd y tu allan yn y cyntedd. A daeth un o'r morynion ato a dweud, “Yr oeddit tithau hefyd gyda Iesu'r Galilead.” Ond gwadodd ef o flaen pawb a dweud, “Nid wyf yn gwybod am beth yr wyt ti'n sôn.” Ac wedi iddo fynd allan i'r porth, gwelodd morwyn arall ef a dweud wrth y rhai oedd yno, “Yr oedd hwn gyda Iesu'r Nasaread.” Gwadodd yntau drachefn â llw, “Nid wyf yn adnabod y dyn.” Ymhen ychydig, dyma'r rhai oedd yn sefyll yno yn dod at Pedr ac yn dweud wrtho, “Yn wir yr wyt ti hefyd yn un ohonynt, achos y mae dy acen yn dy fradychu.” Yna dechreuodd yntau regi a thyngu, “Nid wyf yn adnabod y dyn.” Ac ar unwaith fe ganodd y ceiliog. Cofiodd Pedr y gair a lefarodd Iesu, “Cyn i'r ceiliog ganu, fe'm gwedi i deirgwaith.” Aeth allan ac wylo'n chwerw.

Mathew 26:31-75 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwychwi oll a rwystrir heno o’m plegid i: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a defaid y praidd a wasgerir. Eithr wedi fy atgyfodi, mi a af o’ch blaen chwi i Galilea. A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o’th blegid di, eto ni’m rhwystrir i byth. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai’r nos hon, cyn canu o’r ceiliog, y’m gwedi deirgwaith. Pedr a ddywedodd wrtho, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim. Yr un modd hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion. Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra elwyf a gweddïo acw. Ac efe a gymerth Pedr, a dau fab Sebedeus, ac a ddechreuodd dristáu ac ymofidio. Yna efe a ddywedodd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyda mi. Ac wedi iddo fyned ychydig ymlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Fy Nhad, os yw bosibl, aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf: eto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti. Ac efe a ddaeth at y disgyblion, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Felly; oni allech chwi wylied un awr gyda mi? Gwyliwch a gweddïwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr ysbryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wan. Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddïodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, onis gall y cwpan hwn fyned heibio oddi wrthyf, na byddo i mi yfed ohono, gwneler dy ewyllys di. Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu drachefn: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau. Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddïodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr un geiriau. Yna y daeth efe at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch bellach, a gorffwyswch: wele, y mae’r awr wedi nesáu, a Mab y dyn a draddodir i ddwylo pechaduriaid. Codwch, awn: wele, nesaodd yr hwn sydd yn fy mradychu. Ac efe eto yn llefaru, wele, Jwdas, un o’r deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl. A’r hwn a’i bradychodd ef a roesai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa un bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef. Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Athro; ac a’i cusanodd ef. A’r Iesu a ddywedodd wrtho. Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a’i daliasant ef. Ac wele, un o’r rhai oedd gyda’r Iesu, a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ei glust ef. Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i’w le: canys pawb a’r a gymerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf. A ydwyt ti yn tybied nas gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angylion? Pa fodd ynteu y cyflawnid yr ysgrythurau, mai felly y gorfydd bod? Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megis at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a ffyn i’m dal i? yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn eistedd yn dysgu yn y deml, ac ni’m daliasoch. A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid ysgrythurau’r proffwydi. Yna yr holl ddisgyblion a’i gadawsant ef, ac a ffoesant. A’r rhai a ddaliasent yr Iesu, a’i dygasant ef ymaith at Caiaffas yr archoffeiriad, lle yr oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd. A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gyda’r gweision, i weled y diwedd. A’r archoffeiriaid a’r henuriaid, a’r holl gyngor, a geisiasant gau dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth; Ac nis cawsant: ie, er dyfod yno gau dystion lawer, ni chawsant. Eithr o’r diwedd fe a ddaeth dau gau dyst, Ac ddywedasant, Hwn a ddywedodd, Mi a allaf ddinistrio teml Dduw, a’i hadeiladu mewn tri diwrnod. A chyfododd yr archoffeiriad, ac a ddywedodd wrtho, A atebi di ddim? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? Ond yr Iesu a dawodd. A’r archoffeiriad gan ateb a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy’r Duw byw, ddywedyd ohonot i ni, ai tydi yw y Crist, Mab Duw. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: eithr meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch Fab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod ar gymylau’r nef. Yna y rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, Efe a gablodd: pa raid inni mwy wrth dystion? wele, yr awron clywsoch ei gabledd ef. Beth dybygwch chwi? Hwythau gan ateb a ddywedasant, Y mae efe yn euog o farwolaeth. Yna y poerasant yn ei wyneb, ac a’i cernodiasant; eraill a’i trawsant ef â gwiail, Gan ddywedyd, Proffwyda i ni, O Grist, pwy yw’r hwn a’th drawodd? A Phedr oedd yn eistedd allan yn y llys: a daeth morwynig ato, ac a ddywedodd, A thithau oeddit gydag Iesu y Galilead. Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. A phan aeth efe allan i’r porth, gwelodd un arall ef; a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, Yr oedd hwn hefyd gyda’r Iesu o Nasareth. A thrachefn efe a wadodd trwy lw, Nid adwaen i y dyn. Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, ac a ddywedasant wrth Pedr, Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt; canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo. Yna y dechreuodd efe regi a thyngu, Nid adwaen i y dyn. Ac yn y man y canodd y ceiliog. A chofiodd Pedr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasai wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, ti a’m gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd