Mathew 26:26-29
Mathew 26:26-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Tra oedden nhw’n bwyta, dyma Iesu’n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a’i rhannu i’w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma, a’i fwyta,” meddai. “Dyma fy nghorff i.” Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto, a’i basio iddyn nhw, a dweud, “Yfwch o hwn, bob un ohonoch chi. Dyma fy ngwaed, sy’n selio ymrwymiad Duw i’w bobl. Mae’n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl, i faddau eu pechodau nhw. Wir i chi, fydda i ddim yn yfed y gwin yma eto nes daw’r dydd y bydda i’n ei yfed o’r newydd gyda chi pan fydd fy Nhad yn teyrnasu.”
Mathew 26:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac wrth iddynt fwyta, cymerodd Iesu fara, ac wedi bendithio fe'i torrodd a'i roi i'r disgyblion, a dywedodd, “Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff.” A chymerodd gwpan, ac wedi diolch fe'i rhoddodd iddynt gan ddweud, “Yfwch ohono, bawb, oherwydd hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau. Rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o hwn, ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef yn newydd gyda chwi yn nheyrnas fy Nhad.”
Mathew 26:26-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddodd i’r disgyblion, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff. Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a diolch, efe a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn: Canys hwn yw fy ngwaed o’r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau. Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad.