Mathew 26:14-16
Mathew 26:14-16 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ar ôl i hyn ddigwydd aeth Jwdas Iscariot, un o’r deuddeg disgybl, at y prif offeiriaid a gofyn iddyn nhw, “Faint wnewch chi dalu i mi os gwna i ei fradychu e?” A dyma nhw’n cytuno i roi tri deg darn arian iddo. O hynny ymlaen roedd Jwdas yn edrych am ei gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw.
Mathew 26:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna aeth un o'r Deuddeg, hwnnw a elwid Jwdas Iscariot, at y prif offeiriaid a dweud, “Beth a rowch imi os bradychaf ef i chwi?” Talasant iddo ddeg ar hugain o ddarnau arian; ac o'r pryd hwnnw dechreuodd geisio cyfle i'w fradychu ef.
Mathew 26:14-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna yr aeth un o’r deuddeg, yr hwn a elwid Jwdas Iscariot, at yr archoffeiriaid, Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, a mi a’i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian. Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i’w fradychu ef.