Mathew 24:30-31
Mathew 24:30-31 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Yna bydd arwydd i’w weld yn yr awyr yn rhybuddio fod Mab y Dyn ar fin dod, a bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear yn galaru. Bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod ar gymylau’r awyr gyda grym ac ysblander mawr. Bydd utgorn yn canu a bydd Duw yn anfon ei angylion i gasglu’r rhai mae wedi’u dewis o bob rhan o’r byd.
Mathew 24:30-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“A'r pryd hwnnw ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y nef; y pryd hwnnw bydd holl lwythau'r ddaear yn galaru, a gwelant Fab y Dyn yn dyfod ar gymylau'r nef gyda nerth a gogoniant mawr. Ac fe anfona ei angylion wrth sain utgorn mawr, a byddant yn cynnull ei etholedigion o'r pedwar gwynt, o un eithaf i'r nefoedd hyd at y llall.
Mathew 24:30-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau y ddaear; a hwy a welant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau y nef, gyda nerth a gogoniant mawr. Ac efe a ddenfyn ei angylion â mawr sain utgorn; a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd o’r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt.