Mathew 24:1-51
Mathew 24:1-51 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wrth i Iesu adael y deml dyma’i ddisgyblion yn dod ato ac yn tynnu ei sylw at yr adeiladau. “Ydych chi’n gweld y rhain i gyd?” meddai. “Credwch chi fi, bydd y cwbl yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi’i gadael yn ei lle.” Yn nes ymlaen, pan oedd Iesu’n eistedd ar ochr Mynydd yr Olewydd, daeth ei ddisgyblion ato yn breifat a gofyn, “Pryd mae beth oeddet ti’n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd i ddangos i ni dy fod di’n dod, a bod diwedd y byd wedi cyrraedd?” Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi. Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, ac yn dweud, ‘Fi ydy’r Meseia,’ a byddan nhw’n llwyddo i dwyllo llawer o bobl. Bydd rhyfeloedd a sôn am ryfeloedd yn agos ac ymhell. Ond peidiwch cynhyrfu – mae pethau felly’n siŵr o ddigwydd, ond fydd y diwedd yn dal heb ddod. Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd newyn mewn gwahanol leoedd, a daeargrynfeydd. Dim ond y dechrau ydy hyn i gyd! “Cewch eich arestio a’ch cam-drin a’ch lladd. Bydd pobl ym mhob gwlad yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi. Bydd llawer yn troi cefn arna i bryd hynny, ac yn bradychu a chasáu ei gilydd. Bydd proffwydi ffug yn codi ac yn twyllo llawer iawn o bobl. Bydd mwy a mwy o ddrygioni a bydd cariad y rhan fwyaf yn oeri, ond bydd yr un sy’n sefyll yn gadarn i’r diwedd un yn cael ei achub. A bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed, a dim ond wedyn fydd y diwedd yn dod. “Pan fydd beth soniodd y proffwyd Daniel amdano yn digwydd, hynny ydy pan fydd ‘Yr eilun ffiaidd sy’n dinistrio’ yn sefyll yn y cysegr sanctaidd (rhaid i’r un sy’n darllen ddeall hyn!), dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i’r mynyddoedd. Fydd dim cyfle i neb sydd y tu allan i’w dŷ fynd i mewn i nôl unrhyw beth. A ddylai neb sydd allan yn y maes fynd adre i nôl ei gôt hyd yn oed. Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy’n magu plant bach bryd hynny! Gweddïwch bydd dim rhaid i chi ffoi yn ystod y gaeaf neu ar ddydd Saboth. Achos bryd hynny bydd argyfwng gwaeth nag unrhyw beth welwyd erioed o’r blaen – a fydd dim byd tebyg yn y dyfodol chwaith! Oni bai iddo gael ei wneud yn gyfnod byr, fyddai neb yn dianc! Ond bydd yn cael ei wneud yn gyfnod byr er mwyn y bobl mae Duw wedi’u dewis. Felly, os bydd rhywun yn dweud, ‘Edrych! Hwn ydy’r Meseia!’ neu ‘Dacw fe!’ peidiwch credu’r peth. Bydd llawer i ‘Feseia’ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw’n twyllo’r bobl hynny mae Duw wedi’u dewis petai’r fath beth yn bosib! Cofiwch mod i wedi dweud hyn ymlaen llaw. “Felly os bydd rhywun yn dweud wrthoch chi, ‘Mae’r Meseia acw, allan yn yr anialwch,’ peidiwch mynd yno i edrych; neu ‘mae e’n cuddio yma,’ peidiwch credu’r peth. Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl – bydd mor amlwg â mellten yn goleuo’r awyr o’r dwyrain i’r gorllewin. Bydd mor amlwg â’r ffaith fod yna gorff marw ble bynnag mae fwlturiaid wedi casglu. “Ond yn union ar ôl yr argyfwng hwnnw, ‘Bydd yr haul yn tywyllu, a’r lleuad yn peidio rhoi golau; bydd y sêr yn syrthio o’r awyr, a’r planedau yn ansefydlog.’ “Yna bydd arwydd i’w weld yn yr awyr yn rhybuddio fod Mab y Dyn ar fin dod, a bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear yn galaru. Bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod ar gymylau’r awyr gyda grym ac ysblander mawr. Bydd utgorn yn canu a bydd Duw yn anfon ei angylion i gasglu’r rhai mae wedi’u dewis o bob rhan o’r byd. “Dysgwch wers gan y goeden ffigys: Pan mae’r brigau’n dechrau blaguro a dail yn dechrau tyfu arni, gwyddoch fod yr haf yn agos. Felly’r un fath, pan fyddwch yn gweld hyn i gyd, byddwch yn gwybod ei fod ar fin dod yn ôl – reit y tu allan i’r drws! Credwch chi fi, bydd y genhedlaeth bresennol yn dal yma pan fydd hyn yn digwydd. Bydd yr awyr a’r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i’n ddweud yn aros am byth. “Does neb ond y Tad yn gwybod y dyddiad a pha amser o’r dydd y bydd hyn yn digwydd – dydy’r angylion ddim yn gwybod, na hyd yn oed y Mab ei hun! Bydd hi yr un fath ag oedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl. Yn union cyn y llifogydd, roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i’r arch. Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd yn mynd i ddigwydd nes i’r llifogydd ddod a’u hysgubo nhw i gyd i ffwrdd! Fel yna’n union y bydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl. Bydd dau allan yn y maes; bydd un yn cael ei gymryd i ffwrdd a’r llall yn cael ei adael. Bydd dwy wraig yn malu ŷd gyda melin law; bydd un yn cael ei chymryd a’r llall yn cael ei gadael. “Gwyliwch felly, achos dych chi ddim yn gwybod y dyddiad pan fydd eich Arglwydd yn dod yn ôl. Meddyliwch! Petai perchennog y tŷ yn gwybod ymlaen llaw pryd yn ystod y nos roedd y lleidr yn dod, byddai wedi aros i wylio a’i rwystro rhag torri i mewn i’w dŷ. Felly rhaid i chi hefyd fod yn barod drwy’r adeg. Bydda i, Mab y Dyn, yn cyrraedd pan fyddwch chi ddim yn disgwyl! “Felly pwy ydy’r gwas doeth mae’r meistr yn gallu dibynnu arno? Mae wedi’i benodi i fod yn gyfrifol am weddill y staff, i’w bwydo nhw’n rheolaidd. Os bydd yn gwneud ei waith yn iawn pan ddaw’r meistr yn ôl, bydd yn cael ei wobrwyo. Wir i chi, bydd yn cael y cyfrifoldeb o ofalu am eiddo’r meistr i gyd! Ond beth petai’r gwas yna’n un drwg, ac yn meddwl iddo’i hun, ‘Mae’r meistr wedi bod i ffwrdd yn hir iawn,’ ac yn mynd ati i gam-drin ei gydweithwyr, a bwyta ac yfed gyda’r meddwon. Byddai’r meistr yn dod yn ôl yn gwbl ddirybudd, a’i gosbi’n llym a’i daflu allan gyda’r rhai hynny sy’n gwneud sioe o’u crefydd. Yno bydd pobl yn wylo’n chwerw ac mewn artaith.”
Mathew 24:1-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth Iesu allan o'r deml, a phan oedd ar ei ffordd oddi yno daeth ei ddisgyblion ato i dynnu ei sylw at adeiladau'r deml. Dywedodd yntau wrthynt, “Oni welwch yr holl bethau hyn? Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni adewir yma faen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr.” Fel yr oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd daeth y disgyblion ato o'r neilltu a gofyn, “Dywed wrthym pa bryd y bydd hyn, a beth fydd yr arwydd o'th ddyfodiad ac o ddiwedd amser?” Atebodd Iesu hwy, “Gwyliwch na fydd i neb eich twyllo. Oherwydd fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, ‘Myfi yw'r Meseia’, ac fe dwyllant lawer. Byddwch yn clywed am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd; gofalwch beidio â chyffroi, oherwydd rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw'r diwedd eto. Oblegid cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd adegau o newyn a daeargrynfâu mewn mannau. Ond dechrau'r gwewyr fydd hyn oll. Yna fe'ch traddodir i gael eich cosbi a'ch lladd, a chas fyddwch gan bob cenedl o achos fy enw i. A'r pryd hwnnw bydd llawer yn cwympo ymaith; byddant yn bradychu ei gilydd ac yn casáu ei gilydd. Fe gyfyd llawer o broffwydi gau a thwyllant lawer. Ac am fod drygioni yn amlhau bydd cariad llawer iawn yn oeri. Ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub. Ac fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy'r byd i gyd fel tystiolaeth i'r holl genhedloedd, ac yna y daw'r diwedd. “Felly, pan welwch ‘y ffieiddbeth diffeithiol’, y soniodd y proffwyd Daniel amdano, yn sefyll yn y lle sanctaidd” (dealled y darllenydd) “yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd. Y sawl sydd ar ben y tŷ, peidied â mynd i lawr i gipio'i bethau o'i dŷ; a'r sawl sydd yn y cae, peidied â throi yn ei ôl i gymryd ei fantell. Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny! A gweddïwch na fyddwch yn gorfod ffoi yn y gaeaf nac ar y Saboth, oblegid y pryd hwnnw bydd gorthrymder mawr na fu ei debyg o ddechrau'r byd hyd yn awr, ac na fydd byth chwaith. Ac oni bai fod y dyddiau hynny wedi eu byrhau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny. Yna, os dywed rhywun wrthych, ‘Edrych, dyma'r Meseia’, neu ‘Dacw ef’, peidiwch â'i gredu. Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion mawr a rhyfeddodau nes arwain ar gyfeiliorn hyd yn oed yr etholedigion, petai hynny'n bosibl. Yn awr yr wyf wedi dweud wrthych ymlaen llaw. Felly, os dywedant wrthych, ‘Dyma ef yn yr anialwch’, peidiwch â mynd allan; neu os dywedant, ‘Dyma ef mewn ystafelloedd o'r neilltu’, peidiwch â'u credu. Oherwydd fel y mae'r fellten yn dod o'r dwyrain ac yn goleuo hyd at y gorllewin, felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn. Lle bynnag y bydd y gelain, yno yr heidia'r fwlturiaid. “Yn union ar ôl gorthrymder y dyddiau hynny, “ ‘Tywyllir yr haul, ni rydd y lloer ei llewyrch, syrth y sêr o'r nef, ac ysgydwir nerthoedd y nefoedd.’ “A'r pryd hwnnw ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y nef; y pryd hwnnw bydd holl lwythau'r ddaear yn galaru, a gwelant Fab y Dyn yn dyfod ar gymylau'r nef gyda nerth a gogoniant mawr. Ac fe anfona ei angylion wrth sain utgorn mawr, a byddant yn cynnull ei etholedigion o'r pedwar gwynt, o un eithaf i'r nefoedd hyd at y llall. “Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd ei gangen yn ir ac yn dechrau deilio, gwyddoch fod yr haf yn agos. Felly chwithau, pan welwch yr holl bethau hyn, byddwch yn gwybod ei fod yn agos, wrth y drws. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid â'r genhedlaeth hon heibio nes i'r holl bethau hyn ddigwydd. Y nef a'r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim. “Ond am y dydd hwnnw a'r awr ni ŵyr neb, nac angylion y nef, na'r Mab, neb ond y Tad yn unig. Fel y bu yn nyddiau Noa, felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn. Fel yr oedd pobl yn y dyddiau cyn y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn cymryd gwragedd ac yn cael gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i'r arch, ac ni wyddent ddim hyd nes y daeth y dilyw a'u hysgubo ymaith i gyd; felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn. Y pryd hwnnw bydd dau yn y cae; cymerir un a gadewir y llall. Bydd dwy wraig yn malu yn y felin; cymerir un a gadewir y llall. Byddwch wyliadwrus gan hynny; oherwydd ni wyddoch pa ddydd y daw eich Arglwydd. Ond gwybyddwch hyn: pe buasai meistr y tŷ yn gwybod pa amser y byddai'r lleidr yn dod, buasai ar ei wyliadwriaeth ac ni fuasai wedi caniatáu iddo dorri i mewn i'w dŷ. Am hynny chwithau hefyd, byddwch barod, oherwydd pryd na thybiwch y daw Mab y Dyn. “Pwy ynteu yw'r gwas ffyddlon a chall a osodwyd gan ei feistr dros weision y tŷ, i roi eu bwyd iddynt yn ei bryd? Gwyn ei fyd y gwas hwnnw a geir yn gwneud felly gan ei feistr pan ddaw; yn wir, rwy'n dweud wrthych y gesyd ef dros ei holl eiddo. Ond os yw'r gwas hwnnw'n ddrwg, ac os dywed yn ei galon, ‘Y mae fy meistr yn oedi’, a dechrau curo'i gydweision, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon, yna bydd meistr y gwas hwnnw yn cyrraedd ar ddiwrnod annisgwyl iddo ef ac ar awr nas gŵyr; ac fe'i cosba yn llym, a gosod ei le gyda'r rhagrithwyr; bydd yno wylo a rhincian dannedd.
Mathew 24:1-51 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o’r deml: a’i ddisgyblion a ddaethant ato, i ddangos iddo adeiladau’r deml. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, Ni adewir yma garreg ar garreg, a’r ni ddatodir. Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, y disgyblion a ddaethant ato o’r neilltu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o’th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi. Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw’r diwedd eto. Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfâu mewn mannau. A dechreuad gofidiau yw hyn oll. Yna y’ch traddodant chwi i’ch gorthrymu, ac a’ch lladdant: a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i. Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd. A gau broffwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer. Ac oherwydd yr amlha anwiredd, fe a oera cariad llawer. Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig. A’r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy’r holl fyd, er tystiolaeth i’r holl genhedloedd: ac yna y daw’r diwedd. Am hynny pan weloch y ffieidd-dra anghyfanheddol, a ddywedwyd trwy Daniel y proffwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarlleno, ystyried;) Yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd. Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd dim allan o’i dŷ: A’r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad. A gwae’r rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny. Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf, nac ar y dydd Saboth: Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechrau’r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith. Ac oni bai fyrhau’r dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny. Yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma Grist, neu llyma; na chredwch. Canys cyfyd gau Gristiau, a gau broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion. Wele, rhagddywedais i chwi. Am hynny, os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffeithwch; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch. Oblegid fel y daw’r fellten o’r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. Canys pa le bynnag y byddo’r gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod. Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hynny, y tywyllir yr haul, a’r lleuad ni rydd ei goleuni, a’r sêr a syrth o’r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau y ddaear; a hwy a welant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau y nef, gyda nerth a gogoniant mawr. Ac efe a ddenfyn ei angylion â mawr sain utgorn; a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd o’r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt. Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren; Pan yw ei gangen eisoes yn dyner, a’i ddail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos: Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gwybyddwch ei fod yn agos wrth y drysau. Yn wir meddaf i chwi, Nid â’r genhedlaeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll. Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim. Ond am y dydd hwnnw a’r awr nis gŵyr neb, nac angylion y nefoedd, ond fy Nhad yn unig. Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymlaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch, Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw, a’u cymryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. Yna y bydd dau yn y maes: y naill a gymerir, a’r llall a adewir. Dwy a fydd yn malu mewn melin; un a gymerir, a’r llall a adewir. Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd. A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa wyliadwriaeth y deuai’r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd. Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn. Pwy gan hynny sydd was ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd? Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddelo, yn gwneuthur felly. Yn wir meddaf i chwi, Ar ei holl dda y gesyd efe ef. Ond os dywed y gwas drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; A dechrau curo ei gyd-weision, a bwyta ac yfed gyda’r meddwon; Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano, ac mewn awr nis gŵyr efe; Ac efe a’i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda’r rhagrithwyr: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.