Mathew 22:41-45
Mathew 22:41-45 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Tra oedd y Phariseaid yno gyda’i gilydd, gofynnodd Iesu gwestiwn iddyn nhw, “Beth ydy’ch barn chi am y Meseia? Mab pwy ydy e?” “Mab Dafydd,” medden nhw. A dyma Iesu’n dweud, “Os felly, sut mae Dafydd, dan ddylanwad yr Ysbryd, yn ei alw’n ‘Arglwydd’? Achos mae’n dweud, ‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd, nes i mi osod dy elynion dan dy draed.”’ Os ydy Dafydd yn ei alw’n ‘Arglwydd’, sut mae’n gallu bod yn fab iddo?”
Mathew 22:41-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd y Phariseaid wedi ymgynnull, a gofynnodd Iesu iddynt, “Beth yw eich barn chwi ynglŷn â'r Meseia? Mab pwy ydyw?” “Mab Dafydd,” meddent wrtho. “Sut felly,” gofynnodd Iesu, “y mae Dafydd trwy'r Ysbryd yn ei alw'n Arglwydd, pan ddywed: “ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i, “Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion dan dy draed” ’? “Os yw Dafydd felly yn ei alw'n Arglwydd, sut y mae'n fab iddo?”
Mathew 22:41-45 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi ymgasglu o’r Phariseaid ynghyd, yr Iesu a ofynnodd iddynt, Gan ddywedyd, Beth a dybygwch chwi am Grist? mab i bwy ydyw? Dywedent wrtho, Mab Dafydd. Dywedai yntau wrthynt, Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr ysbryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd, Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed di? Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo?