Mathew 22:1-22
Mathew 22:1-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Iesu’n dweud stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i frenin yn trefnu gwledd briodas i’w fab. Anfonodd ei weision i ddweud wrth y rhai oedd wedi cael gwahoddiad fod popeth yn barod, ond roedden nhw’n gwrthod dod. “Anfonodd weision eraill i ddweud wrthyn nhw: ‘Mae’r wledd yn barod. Dw i wedi lladd teirw a bustych, felly dewch i’r wledd!’ “Ond wnaethon nhw ddim cymryd unrhyw sylw, dim ond cerdded i ffwrdd – un i’w faes, ac un arall i’w fusnes. Yna dyma’r gweddill yn gafael yn y gweision a’u cam-drin nhw a’u lladd. Roedd y brenin yn wyllt gynddeiriog. Anfonodd ei fyddin i ladd y llofruddion a llosgi eu tref. “Yna meddai wrth ei weision, ‘Mae’r wledd briodas yn barod, ond doedd y rhai gafodd wahoddiad ddim yn haeddu cael dod. Felly ewch i sefyll ar y priffyrdd sy’n mynd allan o’r ddinas, a gwahodd pwy bynnag ddaw heibio i ddod i’r wledd.’ Felly dyma’r gweision yn mynd allan i’r strydoedd a chasglu pawb allen nhw ddod o hyd iddyn nhw – y drwg a’r da. A llanwyd y neuadd briodas â gwesteion. “Ond pan ddaeth y brenin i mewn i edrych ar y gwesteion, sylwodd fod yno un oedd ddim yn gwisgo dillad addas i briodas. ‘Gyfaill,’ meddai wrtho, ‘sut wnest ti lwyddo i ddod i mewn yma heb fod yn gwisgo dillad ar gyfer priodas?’ Allai’r dyn ddim ateb. “Yna dyma’r brenin yn dweud wrth ei weision, ‘Rhwymwch ei ddwylo a’i draed, a’i daflu allan i’r tywyllwch, lle bydd pobl yn wylo’n chwerw ac mewn artaith.’ “Mae llawer wedi cael gwahoddiad, ond ychydig sy’n cael eu dewis.” Dyma’r Phariseaid yn mynd allan a chynllwynio sut i’w gornelu a’i gael i ddweud rhywbeth fyddai’n ei gael i drwbwl. Dyma nhw’n anfon rhai o’u disgyblion ato gyda rhai o gefnogwyr Herod. “Athro,” medden nhw, “dŷn ni’n gwybod dy fod ti’n onest a wir yn dysgu ffordd Duw. Ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw. Felly, beth ydy dy farn di? Ydy’n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?” Ond roedd Iesu’n gwybod mai drwg oedden nhw’n ei fwriadu, ac meddai wrthyn nhw, “Dych chi mor ddauwynebog! Pam dych chi’n ceisio nal i? Dangoswch i mi ddarn arian sy’n cael ei ddefnyddio i dalu’r dreth.” Dyma nhw’n dod â darn arian iddo, a dyma fe’n gofyn iddyn nhw, “Llun pwy ydy hwn? Am bwy mae’r arysgrif yma’n sôn?” “Cesar,” medden nhw. Felly meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a’r hyn biau Duw i Dduw.” Roedden nhw wedi’u syfrdanu pan glywon nhw ei ateb, a dyma nhw’n mynd i ffwrdd.
Mathew 22:1-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A llefarodd Iesu drachefn wrthynt ar ddamhegion. “Y mae teyrnas nefoedd,” meddai, “yn debyg i frenin a drefnodd wledd briodas i'w fab. Anfonodd ei weision i alw'r gwahoddedigion i'r neithior, ond nid oeddent am ddod. Anfonodd eilwaith weision eraill gan ddweud, ‘Dywedwch wrth y gwahoddedigion, “Dyma fi wedi paratoi fy ngwledd, y mae fy mustych a'm llydnod pasgedig wedi eu lladd, a phopeth yn barod; dewch i'r neithior.” ’ Ond ni chymerodd y gwahoddedigion sylw, ac aethant ymaith, un i'w faes, ac un arall i'w fasnach. A gafaelodd y lleill yn ei weision a'u cam-drin yn warthus a'u lladd. Digiodd y brenin, ac anfonodd ei filwyr i ddifetha'r llofruddion hynny a llosgi eu tref. Yna meddai wrth ei weision, ‘Y mae'r wledd briodas yn barod, ond nid oedd y gwahoddedigion yn deilwng. Ewch felly i bennau'r strydoedd, a gwahoddwch bwy bynnag a gewch yno i'r wledd briodas.’ Ac fe aeth y gweision hynny allan i'r ffyrdd a chasglu ynghyd bawb a gawsant yno, yn ddrwg a da. A llanwyd neuadd y wledd briodas gan westeion. Aeth y brenin i mewn i gael golwg ar y gwesteion, a gwelodd yno ddyn heb wisg briodas amdano. Meddai wrtho, ‘Gyfaill, sut y daethost i mewn yma heb wisg briodas?’ A thrawyd y dyn yn fud. Yna dywedodd y brenin wrth ei wasanaethyddion, ‘Rhwymwch ei draed a'i ddwylo a bwriwch ef i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.’ Y mae llawer, yn wir, wedi eu gwahodd, ond ychydig wedi eu hethol.” Yna fe aeth y Phariseaid a chynllwynio sut i'w rwydo ar air. A dyma hwy'n anfon eu disgyblion ato gyda'r Herodianiaid i ddweud, “Athro, gwyddom dy fod yn gwbl eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw yn unol â'r gwirionedd; ni waeth gennyt am neb, ac yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb. Dywed wrthym, felly, beth yw dy farn: a yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw?” Deallodd Iesu eu dichell a dywedodd, “Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf, ragrithwyr? Dangoswch i mi ddarn arian y dreth.” Daethant â darn arian iddo, ac meddai ef wrthynt, “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?” Dywedasant wrtho, “Cesar.” Yna meddai ef wrthynt, “Talwch felly bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” Pan glywsant hyn rhyfeddasant, a gadawsant ef a mynd ymaith.
Mathew 22:1-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu a atebodd, ac a lefarodd wrthynt drachefn mewn damhegion, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeth briodas i’w fab, Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r briodas: ac ni fynnent hwy ddyfod. Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, paratoais fy nghinio: fy ychen a’m pasgedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod: deuwch i’r briodas. A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith, un i’w faes, ac arall i’w fasnach: A’r lleill a ddaliasant ei weision ef, ac a’u hamharchasant, ac a’u lladdasant. A phan glybu’r brenin, efe a lidiodd; ac a ddanfonodd ei luoedd, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a losgodd eu dinas hwynt. Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, Yn wir y briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng. Ewch gan hynny i’r priffyrdd, a chynifer ag a gaffoch, gwahoddwch i’r briodas. A’r gweision hynny a aethant allan i’r priffyrdd, ac a gasglasant ynghyd gynifer oll ag a gawsant, drwg a da: a llanwyd y briodas o wahoddedigion. A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddyn heb wisg priodas amdano: Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn yma, heb fod gennyt wisg priodas? Ac yntau a aeth yn fud. Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinidogion, Rhwymwch ei draed a’i ddwylo, a chymerwch ef ymaith, a theflwch i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. Canys llawer sydd wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis. Yna yr aeth y Phariseaid, ac a gymerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd. A hwy a ddanfonasant ato eu disgyblion ynghyd â’r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom dy fod yn eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion. Dywed i ni gan hynny, Beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar, ai nid yw? Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Paham yr ydych yn fy nhemtio i, chwi ragrithwyr? Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy a ddygasant ato geiniog: Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff? Dywedasant wrtho, Eiddo Cesar. Yna y dywedodd wrthynt, Telwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw. A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a’i adael ef, a myned ymaith.