Mathew 21:1-3
Mathew 21:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem a chyrraedd Bethffage a Mynydd yr Olewydd, anfonodd Iesu ddau ddisgybl gan ddweud wrthynt, “Ewch i'r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn syth fe gewch asen wedi ei rhwymo, ac ebol gyda hi. Gollyngwch hwy a dewch â hwy ataf. Ac os dywed rhywun rywbeth wrthych, dywedwch, ‘Y mae ar y Meistr eu hangen’; a bydd yn eu rhoi ar unwaith.”
Mathew 21:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma nhw’n cyrraedd Bethffage wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem, a dyma Iesu’n dweud wrth ddau ddisgybl, “Ewch i’r pentref acw sydd o’ch blaen chi, ac wrth fynd i mewn iddo dewch o hyd i asen wedi’i rhwymo a’i hebol gyda hi. Dewch â nhw yma i mi, ac os bydd rhywun yn ceisio’ch rhwystro, dwedwch, ‘Mae’r meistr eu hangen nhw; bydd yn eu hanfon yn ôl wedyn.’”
Mathew 21:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddaethant yn gyfagos i Jerwsalem, a’u dyfod hwy i Bethffage, i fynydd yr Olewydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl, Gan ddywedyd wrthynt, Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi: gollyngwch hwynt, a dygwch ataf fi. Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae’n rhaid i’r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a’u denfyn hwynt.