Mathew 20:29-33
Mathew 20:29-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel yr oeddent yn mynd allan o Jericho, dilynodd tyrfa fawr ef. Yr oedd dau ddyn dall yn eistedd ar fin y ffordd, a phan glywsant fod Iesu yn mynd heibio, gwaeddasant, “Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd.” Ceryddodd y dyrfa hwy a dweud wrthynt am dewi, ond gweiddi'n fwy byth a wnaethant, “Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd.” Safodd Iesu, a'u galw a dweud, “Beth yr ydych am i mi ei wneud i chwi?” Meddent hwy wrtho, “Syr, mae arnom eisiau i'n llygaid gael eu hagor.”
Mathew 20:29-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wrth iddo fynd allan o Jericho gyda’i ddisgyblion, roedd tyrfa fawr yn dilyn Iesu. Roedd dau ddyn dall yn cardota ar ochr y ffordd, a phan ddeallodd y ddau ohonyn nhw mai Iesu oedd yn mynd heibio, dyma nhw’n gweiddi, “Helpa ni Fab Dafydd!” “Caewch eich cegau!” meddai’r dyrfa wrthyn nhw. Ond yn lle hynny dyma nhw’n gweiddi’n uwch, “Arglwydd! Helpa ni Fab Dafydd!” Dyma Iesu’n stopio, a’u galw nhw draw a gofyn, “Beth ga i wneud i chi?” Dyma nhw’n ateb, “Arglwydd, dŷn ni eisiau gweld.”
Mathew 20:29-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac a hwy yn myned allan o Jericho, tyrfa fawr a’i canlynodd ef. Ac wele, dau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym. A’r dyrfa a’u ceryddodd hwynt, fel y tawent: hwythau a lefasant fwyfwy, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarha wrthym. A’r Iesu a safodd, ac a’u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, Pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur ohonof i chwi? Dywedasant wrtho, Arglwydd, agoryd ein llygaid ni.