Mathew 2:19-23
Mathew 2:19-23 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Pan fuodd Herod farw, cafodd Joseff freuddwyd arall yn yr Aifft. Gwelodd angel yr Arglwydd yn dweud wrtho, “Dos â’r plentyn a’i fam yn ôl i wlad Israel. Mae’r bobl oedd am ei ladd wedi marw.” Felly dyma nhw’n mynd yn ôl i wlad Israel. Ond pan glywodd Joseff mai Archelaus, mab Herod, oedd llywodraethwr newydd Jwdea, roedd ganddo ofn mynd yno. Cafodd ei rybuddio mewn breuddwyd eto, a throdd i gyfeiriad Galilea, a mynd i fyw i dref Nasareth. Felly daeth yr hyn ddwedodd y proffwydi am y Meseia yn wir unwaith eto: “Bydd yn cael ei alw yn Nasaread.”
Mathew 2:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ôl i Herod farw, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Joseff yn yr Aifft, ac yn dweud, “Cod, a chymer y plentyn a'i fam gyda thi, a dos i wlad Israel, oherwydd bu farw y rhai oedd yn ceisio bywyd y plentyn.” Yna cododd Joseff, a chymerodd y plentyn a'i fam gydag ef, a mynd i wlad Israel. Ond wedi clywed bod Archelaus yn teyrnasu dros Jwdea yn lle ei dad Herod, daeth ofn ar Joseff fynd yno. Cafodd ei rybuddio mewn breuddwyd, ac ymadawodd i barthau Galilea, ac ymsefydlodd mewn tref a elwid Nasareth, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwydi: “Gelwir ef yn Nasaread.”
Mathew 2:19-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond wedi marw Herod, wele angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos i Joseff yn yr Aifft, Gan ddywedyd, Cyfod, a chymer y mab bychan a’i fam, a dos i dir Israel: canys y rhai oedd yn ceisio einioes y mab bychan a fuant feirw. Ac wedi ei gyfodi, efe a gymerth y mab bychan a’i fam, ac a ddaeth i dir Israel. Eithr pan glybu efe fod Archelaus yn teyrnasu ar Jwdea yn lle ei dad Herod, efe a ofnodd fyned yno. Ac wedi ei rybuddio gan Dduw mewn breuddwyd, efe a giliodd i barthau Galilea. A phan ddaeth, efe a drigodd mewn dinas a elwid Nasareth: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r proffwydi, Y gelwid ef yn Nasaread.