Mathew 2:13-20
Mathew 2:13-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi iddynt ymadael, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, ac yn dweud, “Cod, a chymer y plentyn a'i fam gyda thi, a ffo i'r Aifft, ac aros yno hyd nes y dywedaf wrthyt, oherwydd y mae Herod yn mynd i chwilio am y plentyn er mwyn ei ladd.” Yna cododd Joseff, a chymerodd y plentyn a'i fam gydag ef liw nos, ac ymadael i'r Aifft. Arhosodd yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd: “O'r Aifft y gelwais fy mab.” Yna, pan ddeallodd Herod iddo gael ei dwyllo gan y seryddion, aeth yn gynddeiriog, a rhoddodd orchymyn i ladd pob bachgen ym Methlehem a'r holl gyffiniau oedd yn ddwyflwydd oed neu lai, gan gyfrif o'r amser yr holodd ef y seryddion. Felly y cyflawnwyd y gair a lefarwyd trwy Jeremeia'r proffwyd: “Clywyd llef yn Rama, wylofain a galaru dwys; Rachel yn wylo am ei phlant, ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddent mwy.” Ar ôl i Herod farw, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Joseff yn yr Aifft, ac yn dweud, “Cod, a chymer y plentyn a'i fam gyda thi, a dos i wlad Israel, oherwydd bu farw y rhai oedd yn ceisio bywyd y plentyn.”
Mathew 2:13-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl iddyn nhw fynd, cafodd Joseff freuddwyd arall. Gwelodd angel Duw yn dweud wrtho, “Rhaid i chi ddianc ar unwaith! Dos â’r plentyn a’i fam i’r Aifft, ac aros yno nes i mi ddweud ei bod yn saff i chi ddod yn ôl. Mae Herod yn ceisio dod o hyd i’r plentyn er mwyn ei ladd.” Felly cododd Joseff ganol nos a gadael am yr Aifft gyda’r plentyn a’i fam. Buon nhw yn yr Aifft nes oedd Herod wedi marw. Felly daeth beth ddwedodd yr Arglwydd drwy’r proffwyd yn wir: “Galwais fy mab allan o’r Aifft.” Aeth Herod yn wyllt gynddeiriog pan sylweddolodd fod y gwŷr doeth wedi’i dwyllo. Anfonodd filwyr i Bethlehem a’r cylch i ladd pob bachgen bach dan ddwyflwydd oed – hynny ar sail beth oedd y gwŷr doeth wedi’i ddweud wrtho am y dyddiad y daeth y seren i’r golwg. A dyna sut daeth geiriau y proffwyd Jeremeia yn wir: “Mae cri i’w chlywed yn Rama, sŵn wylo chwerw a galaru mawr – Rachel yn crio am ei phlant. Mae’n gwrthod cael ei chysuro, am eu bod nhw wedi mynd.” Pan fuodd Herod farw, cafodd Joseff freuddwyd arall yn yr Aifft. Gwelodd angel yr Arglwydd yn dweud wrtho, “Dos â’r plentyn a’i fam yn ôl i wlad Israel. Mae’r bobl oedd am ei ladd wedi marw.”
Mathew 2:13-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi iddynt ymado, wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Cyfod, cymer y mab bychan a’i fam, a ffo i’r Aifft, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti: canys ceisio a wna Herod y mab bychan i’w ddifetha ef. Ac yntau pan gyfododd, a gymerth y mab bychan a’i fam o hyd nos, ac a giliodd i’r Aifft; Ac a fu yno hyd farwolaeth Herod: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd, O’r Aifft y gelwais fy mab. Yna Herod, pan weles ei siomi gan y doethion, a ffromodd yn aruthr, ac a ddanfonodd, ac a laddodd yr holl fechgyn oedd ym Methlehem, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwyflwydd oed a than hynny, wrth yr amser yr ymofynasai efe yn fanwl â’r doethion. Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Jeremeias y proffwyd, gan ddywedyd, Llef a glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr, Rachel yn wylo am ei phlant; ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddynt. Ond wedi marw Herod, wele angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos i Joseff yn yr Aifft, Gan ddywedyd, Cyfod, a chymer y mab bychan a’i fam, a dos i dir Israel: canys y rhai oedd yn ceisio einioes y mab bychan a fuant feirw.