Mathew 19:8-9
Mathew 19:8-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Wyddoch chi pam wnaeth Moses ganiatáu i chi ysgaru eich gwragedd?” meddai Iesu. “Am fod pobl fel chi mor ystyfnig! Ond dim felly oedd hi ar y dechrau. Wir i chi, mae unrhyw un sy’n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu, oni bai fod ei wraig wedi bod yn anffyddlon iddo.”
Mathew 19:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd ef hwy, “Oherwydd eich ystyfnigrwydd y rhoddodd Moses ganiatâd ichwi i ysgaru eich gwragedd, ond nid felly yr oedd o'r dechreuad. Rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig, ond am anffyddlondeb, ac yn priodi un arall, y mae'n godinebu.”
Mathew 19:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yntau a ddywedodd wrthynt, Moses, oherwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ysgar â’ch gwragedd: eithr o’r dechrau nid felly yr oedd. Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ysgaro â’i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae’r hwn a briodo’r hon a ysgarwyd, yn torri priodas.