Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 19:15-30

Mathew 19:15-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ac wedi rhoi ei ddwylo arnynt, aeth oddi yno. Dyma ddyn yn dod ato ac yn gofyn, “Athro, pa beth da a wnaf i gael bywyd tragwyddol?” A dywedodd Iesu wrtho, “Pam yr wyt yn fy holi am yr hyn sy'n dda? Un yn unig sy'n dda. Ond os mynni fynd i mewn i'r bywyd, cadw'r gorchmynion.” Meddai yntau wrtho, “Pa rai?” Atebodd Iesu, “ ‘Na ladd, na odineba, na ladrata, na chamdystiolaetha, anrhydedda dy dad a'th fam’, a ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ ” Dywedodd y dyn ifanc wrtho, “Yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd. Beth arall sydd eisiau?” Meddai Iesu wrtho, “Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo a dyro i'r tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyrd, canlyn fi.” Ond pan glywodd y dyn ifanc y gair hwn, aeth ymaith yn drist, oherwydd yr oedd yn berchen meddiannau lawer. Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych mai anodd fydd hi i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas nefoedd. Rwy'n dweud wrthych eto, y mae'n haws i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw.” Pan glywodd y disgyblion hyn, synasant yn fawr ac meddent, “Pwy felly all gael ei achub?” Edrychodd Iesu arnynt a dywedodd wrthynt, “Gyda dynion y mae hyn yn amhosibl, ond gyda Duw y mae pob peth yn bosibl.” Yna atebodd Pedr ef, “Dyma ni wedi gadael pob peth a'th ganlyn di. Beth felly a gawn ni?” Dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pan enir yr oes newydd, pan fydd Mab y Dyn yn eistedd ar ei orsedd ogoneddus, byddwch chwi a'm canlynodd i hefyd yn eistedd ar ddeuddeg gorsedd gan farnu deuddeg llwyth Israel. A phob un a adawodd dai neu frodyr neu chwiorydd neu dad neu fam neu blant neu diroedd er mwyn fy enw i, caiff dderbyn ganwaith cymaint ac etifeddu bywyd tragwyddol. Ond bydd llawer o'r rhai blaenaf yn olaf, ac o'r rhai olaf yn flaenaf.

Mathew 19:15-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno. Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragwyddol? Yntau a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchmynion. Efe a ddywedodd wrtho yntau, Pa rai? A’r Iesu a ddywedodd, Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Anrhydedda dy dad a’th fam, a Châr dy gymydog fel ti dy hun. Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o’m hieuenctid: beth sydd yn eisiau i mi eto? Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi. A phan glybu’r gŵr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen da lawer. Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Yn wir y dywedaf i chwi, mai yn anodd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd. A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw. A phan glybu ei ddisgyblion ef hyn, synnu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig? A’r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion amhosibl yw hyn; ond gyda Duw pob peth sydd bosibl. Yna Pedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di: beth gan hynny a fydd i ni? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi, y rhai a’m canlynasoch i, yn yr adenedigaeth, pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel. A phob un a’r a adawodd dai neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cymaint, a bywyd tragwyddol a etifedda efe. Ond llawer o’r rhai blaenaf a fyddant yn olaf, a’r rhai olaf yn flaenaf.