Mathew 18:7-9
Mathew 18:7-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Gwae’r sawl sy’n achosi i bobl eraill bechu! Mae temtasiynau yn siŵr o ddod, ond gwae’r sawl fydd yn gwneud y temtio! Os ydy dy law neu dy droed yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a’i thaflu ymaith. Mae’n well i ti fynd i mewn i’r bywyd newydd wedi dy anafu neu’n gloff, na bod â dwy law a dwy droed a chael dy daflu i’r tân tragwyddol! Ac os ydy dy lygad yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a’i thaflu i ffwrdd. Mae’n well i ti fynd i mewn i’r bywyd newydd gyda dim ond un llygad na bod dwy gen ti a chael dy daflu i dân uffern.
Mathew 18:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwae'r byd oherwydd achosion cwymp; y maent yn rhwym o ddod, ond gwae'r sawl sy'n gyfrifol am achos cwymp. Os yw dy law neu dy droed yn achos cwymp i ti, tor hi ymaith a'i thaflu oddi wrthyt; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn anafus neu'n gloff, na chael dy daflu, a dwy law neu ddau droed gennyt, i'r tân tragwyddol. Ac os yw dy lygad yn achos cwymp i ti, tyn ef allan a'i daflu oddi wrthyt; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn unllygeidiog na chael dy daflu, a dau lygad gennyt, i dân uffern.
Mathew 18:7-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwae’r byd oblegid rhwystrau! canys anghenraid yw dyfod rhwystrau; er hynny gwae’r dyn hwnnw drwy’r hwn y daw’r rhwystr! Am hynny os dy law neu dy droed a’th rwystra, tor hwynt ymaith, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag a chennyt ddwy law, neu ddau droed, dy daflu i’r tân tragwyddol. Ac os dy lygad a’th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i’r bywyd, nag a dau lygad gennyt dy daflu i dân uffern.