Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 18:21-35

Mathew 18:21-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yna daeth Pedr a gofyn iddo, “Arglwydd, pa sawl gwaith y mae fy nghyfaill i bechu yn fy erbyn a minnau i faddau iddo? Ai hyd seithwaith?” Meddai Iesu wrtho, “Nid hyd seithwaith a ddywedaf wrthyt, ond hyd saith deg seithwaith. Am hynny y mae teyrnas nefoedd yn debyg i frenin a benderfynodd adolygu cyfrifon ei weision. Dechreuodd ar y gwaith, a dygwyd ato was oedd yn ei ddyled o ddeng mil o godau o arian. A chan na allai dalu gorchmynnodd ei feistr iddo gael ei werthu, ynghyd â'i wraig a'i blant a phopeth a feddai, er mwyn talu'r ddyled. Syrthiodd y gwas ar ei liniau o flaen ei feistr a dweud, ‘Bydd yn amyneddgar wrthyf, ac fe dalaf y cwbl iti.’ A thosturiodd meistr y gwas hwnnw wrtho; gollyngodd ef yn rhydd a maddau'r ddyled iddo. Aeth y gwas hwnnw allan a daeth o hyd i un o'i gydweision a oedd yn ei ddyled ef o gant o ddarnau arian; ymaflodd ynddo gerfydd ei wddf gan ddweud, ‘Tâl dy ddyled.’ Syrthiodd ei gydwas i lawr a chrefodd arno, ‘Bydd yn amyneddgar wrthyf, ac fe dalaf iti.’ Ond gwrthododd; yn hytrach fe aeth a'i fwrw i garchar hyd nes y talai'r ddyled. Pan welodd ei gydweision beth oedd wedi digwydd, fe'u blinwyd yn fawr iawn, ac aethant ac adrodd yr holl hanes wrth eu meistr. Yna galwodd ei feistr ef ato, ac meddai, ‘Y gwas drwg, fe faddeuais i yr holl ddyled honno i ti, am iti grefu arnaf. Oni ddylit tithau fod wedi trugarhau wrth dy gydwas, fel y gwneuthum i wrthyt ti?’ Ac yn ei ddicter traddododd ei feistr ef i'r poenydwyr hyd nes y talai'r ddyled yn llawn. Felly hefyd y gwna fy Nhad nefol i chwithau os na faddeuwch bob un i'w gyfaill o'ch calon.”

Mathew 18:21-35 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Gofynnodd Pedr i Iesu, “Arglwydd, sawl gwaith ddylwn i faddau i frawd neu chwaer sy’n dal ati i bechu yn fy erbyn? Gymaint â saith gwaith?” Atebodd Iesu, “Na, wir i ti, dim saith gwaith, ond o leia saith deg saith gwaith! “Dyna sut mae’r Un nefol yn teyrnasu – mae fel brenin oedd wedi benthyg arian i’w swyddogion, ac am archwilio’r cyfrifon. Roedd newydd ddechrau ar y gwaith pan ddaethon nhw â dyn o’i flaen oedd mewn dyled o filiynau lawer iddo. Doedd y swyddog ddim yn gallu talu’r ddyled, felly gorchmynnodd y meistr i’r dyn a’i wraig a’i blant gael eu gwerthu yn gaethweision, a bod y cwbl o’i eiddo i gael ei werthu hefyd, i dalu’r ddyled. “Syrthiodd y dyn ar ei liniau o’i flaen, a phledio, ‘Rho amser i mi, ac fe dalaf i’r cwbl yn ôl i ti.’ Felly am ei fod yn teimlo trueni drosto, dyma’r meistr yn canslo’r ddyled gyfan a gadael iddo fynd yn rhydd. Ond pan aeth y dyn allan, daeth ar draws un o’i gydweithwyr oedd mewn dyled fechan iddo. Gafaelodd ynddo a dechrau ei dagu, gan ddweud ‘Pryd wyt ti’n mynd i dalu dy ddyled i mi?’ Dyma’r cydweithiwr yn syrthio ar ei liniau a chrefu, ‘Rho amser i mi, ac fe dalaf i’r cwbl yn ôl i ti.’ Ond gwrthododd y dyn wrando arno. Yn lle hynny, aeth â’r mater at yr awdurdodau, a chafodd ei gydweithiwr ei daflu i’r carchar nes gallai dalu’r ddyled. “Roedd y gweision eraill wedi ypsetio’n fawr pan welon nhw beth ddigwyddodd, a dyma nhw’n mynd ac yn dweud y cwbl wrth y brenin. Felly dyma’r brenin yn galw’r dyn yn ôl. ‘Y cnaf drwg!’ meddai wrtho, ‘wnes i ganslo dy ddyled di yn llwyr am i ti grefu mor daer o mlaen i. Ddylet ti ddim maddau i dy gydweithiwr fel gwnes i faddau i ti?’ Roedd y brenin yn gandryll, felly gorchmynnodd daflu’r swyddog i’r carchar i gael ei arteithio nes iddo dalu’r cwbl o’r ddyled yn ôl. “Dyna sut fydd fy Nhad nefol yn delio gyda chi os na wnewch chi faddau’n llwyr i’ch gilydd.”

Mathew 18:21-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna y daeth Pedr ato ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i’m herbyn, ac y maddeuaf iddo? ai hyd seithwaith? Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd wrthyt, Hyd seithwaith; ond, Hyd ddengwaith a thri ugain seithwaith. Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenin a fynnai gael cyfrif gan ei weision. A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddygwyd ato un a oedd yn ei ddyled ef o ddeng mil o dalentau. A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchmynnodd ei arglwydd ei werthu ef, a’i wraig, a’i blant, a chwbl a’r a feddai, a thalu’r ddyled. A’r gwas a syrthiodd i lawr, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti’r cwbl oll. Ac arglwydd y gwas hwnnw a dosturiodd wrtho, ac a’i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo’r ddyled. Ac wedi myned o’r gwas hwnnw allan, efe a gafodd un o’i gyd-weision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gan ceiniog: ac efe a ymaflodd ynddo, ac a’i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat. Yna y syrthiodd ei gyd-was wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti’r cwbl oll. Ac nis gwnâi efe; ond myned a’i fwrw ef yng ngharchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus. A phan welodd ei gyd-weision y pethau a wnaethid, bu ddrwg dros ben ganddynt: a hwy a ddaethant, ac a fynegasant i’w harglwydd yr holl bethau a fuasai. Yna ei arglwydd, wedi ei alw ef ato, a ddywedodd wrtho, Ha was drwg, maddeuais i ti yr holl ddyled honno, am iti ymbil â mi: Ac oni ddylesit tithau drugarhau wrth dy gyd-was, megis y trugarheais innau wrthyt ti? A’i arglwydd a ddigiodd, ac a’i rhoddodd ef i’r poenwyr, hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus iddo. Ac felly y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch o’ch calonnau bob un i’w frawd eu camweddau.