Mathew 18:19-21
Mathew 18:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A thrachefn rwy'n dweud wrthych, os bydd dau ohonoch yn cytuno ar y ddaear i ofyn am unrhyw beth, fe'i rhoddir iddynt gan fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Oherwydd lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i, yr wyf yno yn eu canol.” Yna daeth Pedr a gofyn iddo, “Arglwydd, pa sawl gwaith y mae fy nghyfaill i bechu yn fy erbyn a minnau i faddau iddo? Ai hyd seithwaith?”
Mathew 18:19-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“A pheth arall hefyd: Pan mae dau ohonoch chi ar y ddaear yn cytuno i ofyn am arweiniad wrth ddelio ag unrhyw fater, bydd fy Nhad yn y nefoedd yn ei roi i chi. Pan mae dau neu dri sy’n perthyn i mi wedi dod at ei gilydd, dw i yna gyda nhw.” Gofynnodd Pedr i Iesu, “Arglwydd, sawl gwaith ddylwn i faddau i frawd neu chwaer sy’n dal ati i bechu yn fy erbyn? Gymaint â saith gwaith?”
Mathew 18:19-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Trachefn meddaf i chwi, Os cydsynia dau ohonoch ar y ddaear am ddim oll, beth bynnag a’r a ofynnant, efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt. Yna y daeth Pedr ato ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i’m herbyn, ac y maddeuaf iddo? ai hyd seithwaith?