Mathew 18:15-20
Mathew 18:15-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Os ydy crediniwr arall yn pechu yn dy erbyn, dos i siarad ag e am y peth wyneb yn wyneb – paid dweud wrth neb arall. Os bydd yn gwrando arnat byddi wedi adfer y berthynas rhyngoch. Ond os fydd e ddim yn gwrando arnat, dos ag un neu ddau o bobl gyda ti, am fod ‘rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.’ Os bydd yn dal i wrthod gwrando, dos â’r mater o flaen yr eglwys. Ac os bydd hyd yn oed yn gwrthod gwrando ar yr eglwys, yna dylid ei drin fel pagan neu’r rhai sy’n casglu trethi i Rufain! “Credwch chi fi, bydd pa bethau bynnag dych chi’n eu rhwystro ar y ddaear wedi’u rhwystro yn y nefoedd, a bydd pa bethau bynnag dych chi’n eu caniatáu ar y ddaear wedi’u caniatáu yn y nefoedd. “A pheth arall hefyd: Pan mae dau ohonoch chi ar y ddaear yn cytuno i ofyn am arweiniad wrth ddelio ag unrhyw fater, bydd fy Nhad yn y nefoedd yn ei roi i chi. Pan mae dau neu dri sy’n perthyn i mi wedi dod at ei gilydd, dw i yna gyda nhw.”
Mathew 18:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Os pecha dy gyfaill yn dy erbyn, dos a dangos ei fai iddo, o'r neilltu rhyngot ti ac ef. Os bydd yn gwrando arnat, fe enillaist dy gyfaill. Ond os na fydd yn gwrando, cymer gyda thi un neu ddau arall, er mwyn i bob peth sefyll ar air dau neu dri o dystion. Os bydd yn gwrthod gwrando arnynt hwy, dywed wrth yr eglwys; ac os bydd yn gwrthod gwrando ar yr eglwys, cyfrifa ef fel un o'r Cenhedloedd a'r casglwr trethi. “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pa bethau bynnag a waherddwch ar y ddaear, fe'u gwaherddir yn y nef, a pha bethau bynnag a ganiatewch ar y ddaear, fe'u caniateir yn y nef. A thrachefn rwy'n dweud wrthych, os bydd dau ohonoch yn cytuno ar y ddaear i ofyn am unrhyw beth, fe'i rhoddir iddynt gan fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Oherwydd lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i, yr wyf yno yn eu canol.”
Mathew 18:15-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac os pecha dy frawd i’th erbyn, dos, ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun. Os efe a wrendy arnat, ti a enillaist dy frawd. Ac os efe ni wrendy, cymer gyda thi eto un neu ddau, fel yng ngenau dau neu dri o dystion y byddo pob gair yn safadwy. Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i’r eglwys: ac os efe ni wrendy ar yr eglwys chwaith, bydded ef i ti megis yr ethnig a’r publican. Yn wir meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear, fyddant wedi eu rhwymo yn y nef: a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaear, a fyddant wedi eu rhyddhau yn y nef. Trachefn meddaf i chwi, Os cydsynia dau ohonoch ar y ddaear am ddim oll, beth bynnag a’r a ofynnant, efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.