Mathew 17:1-6
Mathew 17:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Chwe diwrnod wedyn aeth Iesu i ben mynydd uchel, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan (brawd Iago) gydag e. Dyma olwg Iesu’n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid – roedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a throdd ei ddillad yn wyn llachar fel golau. Wedyn dyma Moses ac Elias yn ymddangos, yn sgwrsio gyda Iesu. Dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, mae’n dda cael bod yma. Os wyt ti eisiau, gwna i godi tair lloches yma – un i ti, un i Moses, ac un i Elias.” Roedd yn dal i siarad pan ddaeth cwmwl disglair i lawr o’u cwmpas, a dyma lais o’r cwmwl yn dweud, “Fy Mab annwyl i ydy hwn; mae wedi fy mhlesio i’n llwyr. Gwrandwch arno!” Pan glywodd y disgyblion y llais roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw’n syrthio ar eu hwynebau ar lawr.
Mathew 17:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymhen chwe diwrnod dyma Iesu'n cymryd Pedr ac Iago ac Ioan ei frawd, ac yn mynd â hwy i fynydd uchel o'r neilltu. A gweddnewidiwyd ef yn eu gŵydd hwy, a disgleiriodd ei wyneb fel yr haul, ac aeth ei ddillad yn wyn fel y goleuni. A dyma Moses ac Elias yn ymddangos iddynt, yn ymddiddan ag ef. A dywedodd Pedr wrth Iesu, “Arglwydd, y mae'n dda ein bod ni yma; os mynni, gwnaf yma dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.” Tra oedd ef yn dal i siarad, dyma gwmwl golau yn cysgodi drostynt, a llais o'r cwmwl yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu; gwrandewch arno.” A phan glywodd y disgyblion hyn syrthiasant ar eu hwynebau a chydiodd ofn mawr ynddynt.
Mathew 17:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ar ôl chwe diwrnod y cymerodd yr Iesu Pedr, ac Iago, ac Ioan ei frawd, ac a’u dug hwy i fynydd uchel o’r neilltu; A gweddnewidiwyd ef ger eu bron hwy: a’i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul, a’i ddillad oedd cyn wynned â’r goleuni. Ac wele, Moses ac Eleias a ymddangosodd iddynt, yn ymddiddan ag ef. A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O Arglwydd, da yw i ni fod yma: os ewyllysi, gwnawn yma dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias. Ac efe eto yn llefaru, wele, cwmwl golau a’u cysgododd hwynt: ac wele, lef o’r cwmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd: gwrandewch arno ef. A phan glybu’r disgyblion hynny: hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr.