Mathew 16:24-27
Mathew 16:24-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma Iesu’n dweud wrth ei ddisgyblion, “Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid iddyn nhw stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros erailla cherdded yr un llwybr â mi. Bydd y rhai sy’n ceisio achub eu hunain yn colli’r bywyd go iawn, ond bydd y rhai hynny sy’n barod i ollwng gafael yn eu bywydau er fy mwyn i, yn dod o hyd i fywyd go iawn. Beth ydy’r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i’w gynnig, a cholli’r enaid? Oes unrhyw beth sy’n fwy gwerthfawr na’r enaid? Bydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl yn holl ysblander y Tad, a’r angylion gyda mi. Bydda i’n rhoi gwobr i bawb ar sail beth maen nhw wedi’i wneud.
Mathew 16:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i caiff. Pa elw a gaiff rhywun os ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Neu beth a rydd rhywun yn gyfnewid am ei fywyd? Oherwydd y mae Mab y Dyn ar ddyfod yng ngogoniant ei Dad gyda'i angylion, ac yna fe dâl i bob un yn ôl ei ymddygiad.
Mathew 16:24-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi. Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a’i cyll: a phwy bynnag a gollo ei fywyd o’m plegid i, a’i caiff. Canys pa lesâd i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid? Canys Mab y dyn a ddaw yng ngogoniant ei Dad gyda’i angylion; ac yna y rhydd efe i bawb yn ôl ei weithred.