Mathew 16:13-17
Mathew 16:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth Iesu i barthau Cesarea Philipi, a holodd ei ddisgyblion: “Pwy y mae pobl yn dweud yw Mab y Dyn?” Dywedasant hwythau, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, Jeremeia neu un o'r proffwydi.” “A chwithau,” meddai wrthynt, “pwy meddwch chwi ydwyf fi?” Atebodd Simon Pedr, “Ti yw'r Meseia, Mab y Duw byw.” Dywedodd Iesu wrtho, “Gwyn dy fyd, Simon fab Jona, oherwydd nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn iti ond fy Nhad, sydd yn y nefoedd.
Mathew 16:13-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan gyrhaeddodd Iesu ardal Cesarea Philipi, gofynnodd i’w ddisgyblion, “Pwy mae pobl yn ei ddweud ydw i, Mab y Dyn?” “Mae rhai yn dweud Ioan Fedyddiwr,” medden nhw, “eraill yn dweud Elias, ac eraill eto’n dweud Jeremeia neu un o’r proffwydi.” “Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chi’n ddweud ydw i?” Atebodd Simon Pedr, “Ti ydy’r Meseia, Mab y Duw byw.” “Rwyt ti wedi dy fendithio’n fawr, Simon fab Jona,” meddai Iesu, “am mai dim person dynol ddangosodd hyn i ti, ond fy Nhad yn y nefoedd.
Mathew 16:13-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Cesarea Philipi, efe a ofynnodd i’w ddisgyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn? A hwy a ddywedasant, Rhai, mai Ioan Fedyddiwr, a rhai, mai Eleias, ac eraill, mai Jeremeias, neu un o’r proffwydi. Efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi? A Simon Pedr a atebodd ac a ddywedodd, Ti yw’r Crist, Mab y Duw byw. A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fyd di, Simon mab Jona: canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, ond fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.