Mathew 16:1-3
Mathew 16:1-3 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Daeth Phariseaid a Sadwceaid at Iesu a gofyn iddo brofi pwy oedd drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol. Atebodd nhw, “Pan mae’r haul yn machlud dych chi’n dweud, ‘Bydd hi’n braf fory – mae’r awyr yn goch,’ ac yn y bore, ‘Bydd hi’n stormus heddiw – mae’r awyr yn goch a’r cymylau’n ddu.’ Dych chi’n gwybod sut mae’r tywydd yn argoeli, ond does gynnoch chi ddim syniad sut i ddeall yr arwyddion o beth sy’n digwydd nawr.
Mathew 16:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth y Phariseaid a'r Sadwceaid ato, ac i roi prawf arno gofynasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef. Ond atebodd ef hwy, “Gyda'r nos fe ddywedwch, ‘Bydd yn dywydd teg, oherwydd y mae'r wybren yn goch.’ Ac yn y bore, ‘Bydd yn stormus heddiw, oherwydd y mae'r wybren yn goch ac yn gymylog.’ Gwyddoch sut i ddehongli golwg y ffurfafen, ond ni allwch ddehongli arwyddion yr amserau.
Mathew 16:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi i’r Phariseaid a’r Sadwceaid ddyfod ato, a’i demtio, hwy a atolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o’r nef. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pan fyddo’r hwyr, y dywedwch, Tywydd teg; canys y mae’r wybr yn goch. A’r bore, Heddiw drycin; canys y mae’r wybr yn goch ac yn bruddaidd. O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren; ac oni fedrwch arwyddion yr amserau?