Mathew 14:25-29
Mathew 14:25-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna, rywbryd ar ôl tri o’r gloch y bore aeth Iesu allan atyn nhw gan gerdded ar y dŵr. Pan welodd y disgyblion e’n cerdded ar y llyn, roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Ysbryd ydy e!” medden nhw, gan weiddi mewn ofn. Ond dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw, “Mae’n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.” “Arglwydd, os mai ti sydd yna” meddai Pedr, “gad i mi ddod atat ti ar y dŵr.” “Iawn, tyrd,” meddai Iesu. Yna camodd Pedr allan o’r cwch a dechrau cerdded ar y dŵr tuag at Iesu.
Mathew 14:25-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Rhwng tri a chwech o'r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y môr. Pan welodd y disgyblion ef yn cerdded ar y môr, dychrynwyd hwy nes dweud, “Drychiolaeth yw”, a gweiddi gan ofn. Ond ar unwaith siaradodd Iesu â hwy. “Codwch eich calon,” meddai, “myfi yw; peidiwch ag ofni.” Atebodd Pedr ef, “Arglwydd, os tydi yw, gorchymyn i mi ddod atat ar y tonnau.” Meddai Iesu, “Tyrd.” Disgynnodd Pedr o'r cwch a cherddodd ar y tonnau, a daeth at Iesu.
Mathew 14:25-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn y bedwaredd wylfa o’r nos yr aeth yr Iesu atynt, gan rodio ar y môr. A phan welodd y disgyblion ef yn rhodio ar y môr, dychrynasant, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw. A hwy a waeddasant rhag ofn. Ac yn y man y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Cymerwch gysur: myfi ydyw; nac ofnwch. A Phedr a’i hatebodd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, os tydi yw, arch i mi ddyfod atat ar y dyfroedd. Ac efe a ddywedodd, Tyred. Ac wedi i Pedr ddisgyn o’r llong, efe a rodiodd ar y dyfroedd, i ddyfod at yr Iesu.