Mathew 14:19
Mathew 14:19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dwedodd wrth y bobl am eistedd i lawr ar y glaswellt. Wedyn cymerodd y pum torth a’r ddau bysgodyn ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a rhoi’r torthau i’w ddisgyblion, a dyma’r disgyblion yn eu rhannu i’r bobl.
Rhanna
Darllen Mathew 14Mathew 14:19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac wedi gorchymyn i'r tyrfaoedd eistedd ar y glaswellt, cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef a bendithio, torrodd y torthau a rhoddodd hwy i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r tyrfaoedd.
Rhanna
Darllen Mathew 14Mathew 14:19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi gorchymyn i’r torfeydd eistedd ar y gwelltglas, a chymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny tua’r nef, ac a fendithiodd, ac a dorrodd; ac a roddes y torthau i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd.
Rhanna
Darllen Mathew 14