Mathew 14:13-21
Mathew 14:13-21 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Pan glywodd Iesu beth oedd wedi digwydd, aeth i ffwrdd mewn cwch i le tawel i fod ar ei ben ei hun. Ond clywodd y tyrfaoedd am hyn, a’i ddilyn ar droed o’r trefi. Pan gyrhaeddodd Iesu’r lan, roedd gweld y dyrfa fawr yno yn ei gyffwrdd i’r byw, ac iachaodd y rhai oedd yn sâl. Pan oedd hi’n dechrau nosi, dyma’r disgyblion yn dod ato a dweud, “Mae’r lle yma’n anial ac mae’n mynd yn hwyr. Anfon y bobl i ffwrdd, iddyn nhw gael mynd i’r pentrefi i brynu bwyd.” Atebodd Iesu, “Does dim rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd. Rhowch chi rywbeth i’w fwyta iddyn nhw.” Medden nhw wrtho, “Dim ond pum torth fach a dau bysgodyn sydd gynnon ni.” “Dewch â nhw i mi,” meddai. A dwedodd wrth y bobl am eistedd i lawr ar y glaswellt. Wedyn cymerodd y pum torth a’r ddau bysgodyn ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a rhoi’r torthau i’w ddisgyblion, a dyma’r disgyblion yn eu rhannu i’r bobl. Cafodd pawb ddigon i’w fwyta, a dyma nhw’n codi deuddeg llond basged o dameidiau oedd wedi’u gadael dros ben. Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant!
Mathew 14:13-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan glywodd Iesu, aeth oddi yno mewn cwch i le unig o'r neilltu. Ond clywodd y tyrfaoedd, a dilynasant ef dros y tir o'r trefi. Pan laniodd Iesu, gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt ac iacháu eu cleifion hwy. Fel yr oedd yn nosi daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Y mae'r lle yma'n unig ac y mae hi eisoes yn hwyr. Gollwng y tyrfaoedd, iddynt fynd i'r pentrefi i brynu bwyd iddynt eu hunain.” Meddai Iesu wrthynt, “Nid oes rhaid iddynt fynd ymaith. Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.” Meddent hwy wrtho, “Nid oes gennym yma ond pum torth a dau bysgodyn.” Meddai yntau, “Dewch â hwy yma i mi.” Ac wedi gorchymyn i'r tyrfaoedd eistedd ar y glaswellt, cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef a bendithio, torrodd y torthau a rhoddodd hwy i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r tyrfaoedd. Bwytasant oll a chael digon, a chodasant ddeuddeg basgedaid lawn o'r tameidiau oedd dros ben. Ac yr oedd y rhai oedd yn bwyta tua phum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.
Mathew 14:13-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan glybu’r Iesu, efe a ymadawodd oddi yno mewn llong i anghyfanheddle o’r neilltu: ac wedi clywed o’r torfeydd, hwy a’i canlynasant ef ar draed allan o’r dinasoedd. A’r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt; ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt. Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, Y lle sydd anghyfannedd, a’r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymaith, fel yr elont i’r pentrefi, ac y prynont iddynt fwyd. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni yma ond pum torth, a dau bysgodyn. Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi. Ac wedi gorchymyn i’r torfeydd eistedd ar y gwelltglas, a chymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny tua’r nef, ac a fendithiodd, ac a dorrodd; ac a roddes y torthau i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd. A hwynt oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o’r briwfwyd oedd yng ngweddill, ddeuddeg basgedaid yn llawn. A’r rhai a fwytasent oedd ynghylch pum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.