Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 14:1-18

Mathew 14:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr amser hwnnw clywodd Herod y tetrarch y sôn am Iesu, a dywedodd wrth ei weision, “Ioan Fedyddiwr yw hwn; y mae ef wedi ei godi oddi wrth y meirw, a dyna pam y mae'r gweithredoedd nerthol ar waith ynddo ef.” Oherwydd yr oedd Herod wedi dal Ioan a'i roi yn rhwym yng ngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd. Yr oedd Ioan wedi dweud wrtho, “Nid yw'n gyfreithlon i ti ei chael hi.” Ac er bod Herod yn dymuno ei ladd, yr oedd arno ofn y bobl, am eu bod yn ystyried Ioan yn broffwyd. Pan oedd Herod yn dathlu ei ben-blwydd, dawnsiodd merch Herodias gerbron y cwmni a phlesio Herod gymaint nes iddo addo ar ei lw roi iddi beth bynnag a ofynnai. Ar gyfarwyddyd ei mam, dywedodd hi, “Rho i mi, yma ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr.” Aeth y brenin yn drist, ond oherwydd ei lw ac oherwydd ei westeion gorchmynnodd ei roi iddi, ac anfonodd i dorri pen Ioan yn y carchar. Daethpwyd â'i ben ef ar ddysgl a'i roi i'r eneth, ac aeth hi ag ef i'w mam. Yna daeth ei ddisgyblion a mynd â'r corff ymaith a'i gladdu, ac aethant ac adrodd yr hanes wrth Iesu. Pan glywodd Iesu, aeth oddi yno mewn cwch i le unig o'r neilltu. Ond clywodd y tyrfaoedd, a dilynasant ef dros y tir o'r trefi. Pan laniodd Iesu, gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt ac iacháu eu cleifion hwy. Fel yr oedd yn nosi daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Y mae'r lle yma'n unig ac y mae hi eisoes yn hwyr. Gollwng y tyrfaoedd, iddynt fynd i'r pentrefi i brynu bwyd iddynt eu hunain.” Meddai Iesu wrthynt, “Nid oes rhaid iddynt fynd ymaith. Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.” Meddent hwy wrtho, “Nid oes gennym yma ond pum torth a dau bysgodyn.” Meddai yntau, “Dewch â hwy yma i mi.”

Mathew 14:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Tua’r adeg yna clywodd y llywodraethwr Herod y straeon am Iesu. Dwedodd wrth ei swyddogion, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi dod yn ôl yn fyw! Dyna pam mae’n gallu gwneud gwyrthiau.” Herod oedd wedi arestio Ioan Fedyddiwr a’i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias, gwraig ei frawd, Philip. Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro: “Dydy’r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti ei chymryd hi.” Er bod Herod eisiau lladd Ioan, roedd ganddo ofn gwneud hynny am fod y bobl yn ystyried Ioan yn broffwyd. Ond yna, ar ddiwrnod pen-blwydd Herod dyma ferch Herodias yn perfformio dawns yn y parti. Roedd hi wedi plesio Herod gymaint nes iddo dyngu ar lw y byddai’n rhoi iddi beth bynnag oedd hi’n gofyn amdano. Gyda’i mam yn ei hannog, dwedodd wrtho, “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr, a’i roi i mi ar hambwrdd.” Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl, ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, rhoddodd orchymyn i’w roi iddi. Anfonodd filwyr i’r carchar i dorri pen Ioan i ffwrdd. Wedyn, dyma nhw’n dod â’r pen ar hambwrdd a’i roi i’r ferch fach, a rhoddodd hithau e i’w mam. Dyma ddisgyblion Ioan yn cymryd y corff a’i gladdu, ac wedyn yn mynd i ddweud wrth Iesu beth oedd wedi digwydd. Pan glywodd Iesu beth oedd wedi digwydd, aeth i ffwrdd mewn cwch i le tawel i fod ar ei ben ei hun. Ond clywodd y tyrfaoedd am hyn, a’i ddilyn ar droed o’r trefi. Pan gyrhaeddodd Iesu’r lan, roedd gweld y dyrfa fawr yno yn ei gyffwrdd i’r byw, ac iachaodd y rhai oedd yn sâl. Pan oedd hi’n dechrau nosi, dyma’r disgyblion yn dod ato a dweud, “Mae’r lle yma’n anial ac mae’n mynd yn hwyr. Anfon y bobl i ffwrdd, iddyn nhw gael mynd i’r pentrefi i brynu bwyd.” Atebodd Iesu, “Does dim rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd. Rhowch chi rywbeth i’w fwyta iddyn nhw.” Medden nhw wrtho, “Dim ond pum torth fach a dau bysgodyn sydd gynnon ni.” “Dewch â nhw i mi,” meddai.

Mathew 14:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Y pryd hwnnw y clybu Herod y tetrarch sôn am yr Iesu; Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Ioan Fedyddiwr: efe a gyfododd o feirw; ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef. Canys Herod a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai, ac a’i dodasai yng ngharchar, oblegid Herodias, gwraig Phylip ei frawd ef. Canys Ioan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlon i ti ei chael hi. Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa; canys hwy a’i cymerent ef megis proffwyd. Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias ger eu bron hwy, ac a ryngodd fodd Herod. O ba herwydd efe a addawodd, trwy lw, roddi iddi beth bynnag a ofynnai. A hithau, wedi ei rhagddysgu gan ei mam, a ddywedodd, Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl. A’r brenin a fu drist ganddo: eithr oherwydd y llw, a’r rhai a eisteddent gydag ef wrth y ford, efe a orchmynnodd ei roi ef iddi. Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar. A ducpwyd ei ben ef mewn dysgl, ac a’i rhoddwyd i’r llances: a hi a’i dug ef i’w mam. A’i ddisgyblion ef a ddaethant, ac a gymerasant ei gorff ef, ac a’i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i’r Iesu. A phan glybu’r Iesu, efe a ymadawodd oddi yno mewn llong i anghyfanheddle o’r neilltu: ac wedi clywed o’r torfeydd, hwy a’i canlynasant ef ar draed allan o’r dinasoedd. A’r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt; ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt. Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, Y lle sydd anghyfannedd, a’r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymaith, fel yr elont i’r pentrefi, ac y prynont iddynt fwyd. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymaith: rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni yma ond pum torth, a dau bysgodyn. Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt yma i mi.