Mathew 13:44-46
Mathew 13:44-46 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Mae teyrnasiad yr Un nefol fel trysor wedi’i guddio mewn cae. Dyma rywun yn ei ffeindio ac yna’n ei guddio eto, wedyn mynd yn llawen a gwerthu popeth oedd ganddo er mwyn gallu prynu’r cae hwnnw. “Mae teyrnasiad yr Un nefol hefyd yn debyg i fasnachwr yn casglu perlau gwerthfawr. Ar ôl dod o hyd i un perl arbennig o werthfawr, mae’n mynd i ffwrdd ac yn gwerthu’r cwbl sydd ganddo er mwyn gallu prynu’r un perl hwnnw.
Mathew 13:44-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i drysor wedi ei guddio mewn maes; pan ddaeth rhywun o hyd iddo, fe'i cuddiodd, ac yn ei lawenydd y mae'n mynd ac yn gwerthu'r cwbl sydd ganddo, ac yn prynu'r maes hwnnw. “Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i fasnachwr sy'n chwilio am berlau gwych. Wedi iddo ddarganfod un perl gwerthfawr, aeth i ffwrdd a gwerthu'r cwbl oedd ganddo, a'i brynu.
Mathew 13:44-46 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes; yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, a’i cuddiodd, ac o lawenydd amdano, sydd yn myned ymaith, ac yn gwerthu’r hyn oll a fedd, ac yn prynu’r maes hwnnw. Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farchnatawr, yn ceisio perlau teg: Yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerthfawr, a aeth, ac a werthodd gymaint oll ag a feddai, ac a’i prynodd ef.