Mathew 13:31-33
Mathew 13:31-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dwedodd stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei gae. Er mai dyma’r hedyn lleia un, mae’n tyfu i fod y planhigyn mwya yn yr ardd. Mae’n tyfu’n goeden y gall yr adar ddod i nythu yn ei changhennau!” Dwedodd stori arall eto: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel burum. Mae gwraig yn ei gymryd a’i gymysgu gyda digonedd o flawd nes iddo ledu drwy’r toes i gyd.”
Mathew 13:31-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dyma ddameg arall a gyflwynodd iddynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i hedyn mwstard, a gymerodd rhywun a'i hau yn ei faes. Dyma'r lleiaf o'r holl hadau, ond wedi iddo dyfu, ef yw'r mwyaf o'r holl lysiau, a daw yn goeden, fel bod adar yr awyr yn dod ac yn nythu yn ei changhennau.” Llefarodd ddameg arall wrthynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i lefain; y mae gwraig yn ei gymryd, ac yn ei gymysgu â thri mesur o flawd gwenith, nes lefeinio'r cwbl.”
Mathew 13:31-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn ac a’i heuodd yn ei faes: Yr hwn yn wir sydd leiaf o’r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o’r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef. Dameg arall a lefarodd efe wrthynt; Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.