Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 13:1-58

Mathew 13:1-58 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Y diwrnod hwnnw aeth Iesu allan o'r tŷ ac eisteddodd ar lan y môr. Daeth tyrfaoedd mawr ynghyd ato, nes iddo fynd ac eistedd mewn cwch, ac yr oedd yr holl dyrfa yn sefyll ar y lan. Fe lefarodd lawer wrthynt ar ddamhegion, gan ddweud: “Aeth heuwr allan i hau. Ac wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr, a daeth yr adar a'i fwyta. Syrthiodd peth arall ar leoedd creigiog, lle na chafodd fawr o bridd, a thyfodd yn gyflym am nad oedd iddo ddyfnder daear. Ond wedi i'r haul godi fe'i llosgwyd, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd. Syrthiodd hadau eraill ymhlith y drain, a thyfodd y drain a'u tagu. A syrthiodd eraill ar dir da a ffrwytho, peth ganwaith cymaint, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.” Daeth y disgyblion a dweud wrtho, “Pam yr wyt yn siarad wrthynt ar ddamhegion?” Atebodd yntau, “I chwi y mae gwybod cyfrinachau teyrnas nefoedd wedi ei roi, ond iddynt hwy nis rhoddwyd. Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, a bydd ganddo fwy na digon; ond oddi ar yr sawl nad oes ganddo y dygir hyd yn oed hynny sydd ganddo. Am hynny yr wyf yn siarad wrthynt ar ddamhegion; oherwydd er iddynt edrych nid ydynt yn gweld, ac er iddynt wrando nid ydynt yn clywed nac yn deall. A chyflawnir ynddynt hwy y broffwydoliaeth gan Eseia sy'n dweud: “ ‘Er clywed a chlywed, ni ddeallwch ddim; er edrych ac edrych, ni welwch ddim. Canys brasawyd calon y bobl yma, y mae eu clyw yn drwm, a'u llygaid wedi cau; rhag iddynt weld â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'u calon, a throi'n ôl, i mi eu hiacháu.’ “Ond gwyn eu byd eich llygaid chwi am eu bod yn gweld, a'ch clustiau chwi am eu bod yn clywed. Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod llawer o broffwydi a rhai cyfiawn wedi dyheu am weld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant. “Gwrandewch chwithau felly ar ddameg yr heuwr. Pan fydd unrhyw un yn clywed gair y deyrnas heb ei ddeall, daw'r Un drwg a chipio'r hyn a heuwyd yn ei galon. Dyma'r un sy'n derbyn yr had ar hyd y llwybr. A'r un sy'n derbyn yr had ar leoedd creigiog, dyma'r un sy'n clywed y gair ac yn ei dderbyn ar ei union yn llawen. Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo'i hunan, a thros dro y mae'n para; pan ddaw gorthrymder neu erlid o achos y gair, fe gwymp ar unwaith. Yr un sy'n derbyn yr had ymhlith y drain, dyma'r un sy'n clywed y gair, ond y mae gofal y byd hwn a hudoliaeth golud yn tagu'r gair, ac y mae'n mynd yn ddiffrwyth. A'r un sy'n derbyn yr had ar dir da, dyma'r un sy'n clywed y gair ac yn ei ddeall, ac yn dwyn ffrwyth ac yn rhoi peth ganwaith cymaint, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain.” Cyflwynodd Iesu ddameg arall iddynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i ddyn a heuodd had da yn ei faes. Ond pan oedd pawb yn cysgu, daeth ei elyn a hau efrau ymysg yr ŷd a mynd ymaith. Pan eginodd y cnwd a dwyn ffrwyth, yna ymddangosodd yr efrau hefyd. Daeth gweision gŵr y tŷ a dweud wrtho, ‘Syr, onid had da a heuaist yn dy faes? O ble felly y daeth efrau iddo?’ Atebodd yntau, ‘Gelyn a wnaeth hyn.’ Meddai'r gweision wrtho, ‘A wyt am i ni fynd allan a chasglu'r efrau?’ ‘Na,’ meddai ef, ‘wrth gasglu'r efrau fe allwch ddiwreiddio'r ŷd gyda hwy. Gadewch i'r ddau dyfu gyda'i gilydd hyd y cynhaeaf, ac yn amser y cynhaeaf dywedaf wrth y medelwyr, “Casglwch yr efrau yn gyntaf, a rhwymwch hwy'n sypynnau i'w llosgi, ond crynhowch yr ŷd i'm hysgubor.” ’ ” A dyma ddameg arall a gyflwynodd iddynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i hedyn mwstard, a gymerodd rhywun a'i hau yn ei faes. Dyma'r lleiaf o'r holl hadau, ond wedi iddo dyfu, ef yw'r mwyaf o'r holl lysiau, a daw yn goeden, fel bod adar yr awyr yn dod ac yn nythu yn ei changhennau.” Llefarodd ddameg arall wrthynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i lefain; y mae gwraig yn ei gymryd, ac yn ei gymysgu â thri mesur o flawd gwenith, nes lefeinio'r cwbl.” Dywedodd Iesu'r holl bethau hyn ar ddamhegion wrth y tyrfaoedd; heb ddameg ni fyddai'n llefaru dim wrthynt, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwyd: “Agoraf fy ngenau ar ddamhegion, traethaf bethau sy'n guddiedig er seiliad y byd.” Yna, wedi gollwng y tyrfaoedd, daeth i'r tŷ. A daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Eglura i ni ddameg yr efrau yn y maes.” Dywedodd yntau, “Yr un sy'n hau'r had da yw Mab y Dyn. Y maes yw'r byd. Yr had da yw plant y deyrnas; yr efrau yw plant yr Un drwg, a'r gelyn a'u heuodd yw'r diafol; y cynhaeaf yw diwedd amser, a'r medelwyr yw'r angylion. Yn union fel y cesglir yr efrau a'u llosgi yn y tân, felly y bydd yn niwedd amser. Bydd Mab y Dyn yn anfon ei angylion, a byddant yn casglu allan o'i deyrnas ef bopeth sy'n peri tramgwydd, a'r rhai sy'n gwneud anghyfraith, a byddant yn eu taflu i'r ffwrnais danllyd; bydd yno wylo a rhincian dannedd. Yna bydd y rhai cyfiawn yn disgleirio fel yr haul yn nheyrnas eu Tad. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed. “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i drysor wedi ei guddio mewn maes; pan ddaeth rhywun o hyd iddo, fe'i cuddiodd, ac yn ei lawenydd y mae'n mynd ac yn gwerthu'r cwbl sydd ganddo, ac yn prynu'r maes hwnnw. “Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i fasnachwr sy'n chwilio am berlau gwych. Wedi iddo ddarganfod un perl gwerthfawr, aeth i ffwrdd a gwerthu'r cwbl oedd ganddo, a'i brynu. “Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i rwyd a fwriwyd i'r môr ac a ddaliodd bysgod o bob math. Pan oedd yn llawn, tynnodd dynion hi i'r lan ac eistedd i lawr a chasglu'r rhai da i lestri a thaflu'r rhai gwael i ffwrdd. Felly y bydd yn niwedd amser; bydd yr angylion yn mynd allan ac yn gwahanu'r drwg o blith y cyfiawn, ac yn eu taflu i'r ffwrnais danllyd; bydd yno wylo a rhincian dannedd. “A ydych wedi deall yr holl bethau hyn?” Dywedasant wrtho, “Ydym.” “Am hynny,” meddai ef wrthynt, “y mae pob ysgrifennydd a ddaeth yn ddisgybl yn nheyrnas nefoedd yn debyg i berchen tŷ sydd yn dwyn allan o'i drysorfa bethau newydd a hen.” Pan orffennodd Iesu'r damhegion hyn, aeth oddi yno. Ac wedi dod i fro ei febyd, yr oedd yn dysgu yn eu synagog hwy, nes iddynt synnu a dweud, “O ble y cafodd hwn y ddoethineb hon a'r gweithredoedd nerthol hyn? Onid mab y saer yw hwn? Onid Mair yw enw ei fam ef, ac Iago a Joseff a Simon a Jwdas yn frodyr iddo? Ac onid yw ei chwiorydd i gyd yma gyda ni? O ble felly y cafodd hwn yr holl bethau hyn?” Yr oedd ef yn peri tramgwydd iddynt. Dywedodd Iesu wrthynt, “Nid yw proffwyd heb anrhydedd ond yn ei fro ei hun ac yn ei gartref.” Ac ni wnaeth lawer o wyrthiau yno o achos eu hanghrediniaeth.

Mathew 13:1-58 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Y diwrnod hwnnw aeth Iesu allan ac eistedd ar lan Llyn Galilea. Roedd cymaint o dyrfa wedi casglu o’i gwmpas nes bod rhaid iddo fynd i eistedd mewn cwch tra oedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan. Roedd yn defnyddio llawer o straeon i rannu ei neges gyda nhw: “Aeth ffermwr allan i hau had. Wrth iddo wasgaru’r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dyma’r adar yn dod a’i fwyta. Dyma beth o’r had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn, ond yn yr haul poeth dyma’r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau. Yna dyma beth o’r had yn syrthio i ganol drain, ond tyfodd y drain a thagu’r planhigion. Ond syrthiodd peth o’r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno – beth ohono gan gwaith, chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na chafodd ei hau.” “Gwrandwch yn ofalus os dych chi’n awyddus i ddysgu!” Daeth y disgyblion ato a gofyn, “Pam wyt ti’n dweud y straeon yma wrthyn nhw?” Dyma oedd ei ateb: “Dych chi’n cael gwybod beth ydy’r gyfrinach am deyrnasiad yr Un nefol, ond dydyn nhw ddim. Bydd y rhai sydd wedi deall rhywfaint eisoes yn derbyn mwy, a byddan nhw ar ben eu digon! Ond am y rhai hynny sydd heb ddeall dim – bydd hyd yn oed yr hyn maen nhw yn ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw. Dyna pam dw i’n defnyddio straeon i siarad â nhw. Er eu bod yn edrych, dŷn nhw ddim yn gweld; er eu bod yn gwrando, dŷn nhw ddim yn clywed nac yn deall. Ynddyn nhw mae’r hyn wnaeth Eseia ei broffwydo yn dod yn wir: ‘Byddwch chi’n gwrando’n astud, ond byth yn deall; Byddwch chi’n edrych yn ofalus, ond byth yn dirnad. Maen nhw’n rhy ystyfnig i ddysgu unrhyw beth – maen nhw’n fyddar, ac wedi cau eu llygaid. Fel arall, bydden nhw’n gweld â’u llygaid, yn clywed â’u clustiau, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i’n eu hiacháu nhw’. Ond dych chi’n cael y fath fraint o weld a chlywed y cwbl! Wir i chi, mae llawer o broffwydi a phobl dduwiol wedi hiraethu am gael gweld beth dych chi’n ei weld a chlywed beth dych chi’n ei glywed, ond chawson nhw ddim. “Felly dyma beth ydy ystyr stori’r ffermwr yn hau: Pan mae rhywun yn clywed y neges am y deyrnas a ddim yn deall, mae’r Un drwg yn dod ac yn cipio beth gafodd ei hau yn y galon. Dyna’r had ddisgynnodd ar y llwybr. Yr had sy’n syrthio ar dir creigiog ydy’r sawl sy’n derbyn y neges yn frwd i ddechrau. Ond dydy’r neges ddim yn gafael yn y person go iawn, ac felly dydy e ddim yn para’n hir iawn. Pan mae argyfwng yn codi, neu wrthwynebiad am ei fod wedi credu, mae’n troi cefn yn ddigon sydyn! Wedyn yr had syrthiodd i ganol drain ydy’r sawl sy’n clywed y neges, ond mae’n rhy brysur yn poeni am hyn a’r llall ac yn ceisio gwneud arian. Felly mae’r neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth i’w weld yn ei fywyd. Ond yr had sy’n syrthio ar dir da ydy’r sawl sy’n clywed y neges ac yn ei deall. Mae’r effaith fel cnwd anferth – can gwaith neu chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na gafodd ei hau.” Dwedodd Iesu stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel dyn yn hau had da yn ei gae. Tra oedd pawb yn cysgu, dyma rywun oedd yn ei gasáu yn hau chwyn yng nghanol y gwenith. Pan ddechreuodd y gwenith egino a thyfu, daeth y chwyn i’r golwg hefyd. “Aeth gweision y ffermwr ato a dweud, ‘Feistr, onid yr had gorau gafodd ei hau yn dy gae di? O ble mae’r holl chwyn yma wedi dod?’ “‘Rhywun sy’n fy nghasáu i sy’n gyfrifol am hyn’ meddai. “‘Felly, wyt ti am i ni fynd i godi’r chwyn?’ meddai ei weision. “‘Na,’ meddai’r dyn, ‘Rhag ofn i chi godi peth o’r gwenith wrth dynnu’r chwyn. Gadewch i’r gwenith a’r chwyn dyfu gyda’i gilydd. Wedyn pan ddaw’r cynhaeaf bydda i’n dweud wrth y rhai fydd yn casglu’r cynhaeaf: Casglwch y chwyn gyntaf, a’u rhwymo’n fwndeli i’w llosgi; wedyn cewch gasglu’r gwenith a’i roi yn fy ysgubor.’” Dwedodd stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei gae. Er mai dyma’r hedyn lleia un, mae’n tyfu i fod y planhigyn mwya yn yr ardd. Mae’n tyfu’n goeden y gall yr adar ddod i nythu yn ei changhennau!” Dwedodd stori arall eto: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel burum. Mae gwraig yn ei gymryd a’i gymysgu gyda digonedd o flawd nes iddo ledu drwy’r toes i gyd.” Roedd Iesu’n dweud popeth wrth y dyrfa drwy adrodd straeon; doedd e’n dweud dim heb ddefnyddio stori fel darlun. Felly roedd beth ddwedodd Duw drwy’r proffwyd yn dod yn wir: “Siaradaf drwy adrodd straeon, Dwedaf bethau sy’n ddirgelwch ers i’r byd gael ei greu.” Gadawodd Iesu y dyrfa a mynd i mewn i’r tŷ. Aeth ei ddisgyblion i mewn ato a gofyn iddo, “Wnei di esbonio’r stori am y chwyn i ni?” Atebodd Iesu, “Fi, Mab y Dyn, ydy’r un sy’n hau yr had da. Y byd ydy’r cae, ac mae’r hadau da yn cynrychioli’r bobl sy’n perthyn i’r deyrnas. Y bobl sy’n perthyn i’r un drwg ydy’r chwyn, a’r gelyn sy’n eu hau nhw ydy’r diafol. Diwedd y byd ydy’r cynhaeaf, a’r angylion ydy’r rhai fydd yn casglu’r cynhaeaf. “Dyma fydd yn digwydd pan ddaw diwedd y byd: Fel y chwyn sy’n cael eu casglu i’w llosgi, bydd Mab y Dyn yn anfon yr angylion allan. Byddan nhw’n chwynnu o blith y rhai sy’n perthyn i’w deyrnas bawb sy’n gwneud i bobl bechu, a phawb sy’n gwneud drwg. Bydd yr angylion yn eu taflu nhw i’r ffwrnais, lle bydd pobl yn wylo’n chwerw ac mewn artaith. Wedyn, pan ddaw eu Tad nefol i deyrnasu, bydd y bobl wnaeth beth sy’n iawn yn disgleirio fel yr haul. Gwrandwch yn ofalus os dych chi’n awyddus i ddysgu. “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel trysor wedi’i guddio mewn cae. Dyma rywun yn ei ffeindio ac yna’n ei guddio eto, wedyn mynd yn llawen a gwerthu popeth oedd ganddo er mwyn gallu prynu’r cae hwnnw. “Mae teyrnasiad yr Un nefol hefyd yn debyg i fasnachwr yn casglu perlau gwerthfawr. Ar ôl dod o hyd i un perl arbennig o werthfawr, mae’n mynd i ffwrdd ac yn gwerthu’r cwbl sydd ganddo er mwyn gallu prynu’r un perl hwnnw. “Unwaith eto, mae teyrnasiad yr Un nefol yn debyg i rwyd sy’n cael ei gollwng i’r llyn a phob math o bysgod yn cael eu dal ynddi. Mae’r pysgotwyr yn llusgo’r rhwyd lawn i’r lan. Wedyn mae’r pysgod da yn cael eu cadw a’u storio, ond y pysgod diwerth yn cael eu taflu i ffwrdd. Dyna fydd yn digwydd pan ddaw diwedd y byd. Bydd yr angylion yn dod i gasglu’r bobl ddrwg o blith y bobl wnaeth beth sy’n iawn, ac yn eu taflu nhw i’r ffwrnais dân, lle bydd pobl yn wylo’n chwerw ac mewn artaith. “Ydych chi wedi deall hyn i gyd?” gofynnodd Iesu. “Ydyn,” medden nhw. Yna meddai wrthyn nhw, “Felly mae pob arbenigwr yn yr ysgrifau sanctaidd sydd wedi ymostwng i deyrnasiad yr Un nefol fel perchennog tir sy’n dod â thrysorau newydd a hen allan o’i ystordy.” Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y straeon yma, aeth yn ôl i Nasareth lle cafodd ei fagu. Dechreuodd ddysgu’r bobl yn eu synagog, ac roedden nhw’n rhyfeddu ato. “Ble gafodd hwn y fath ddoethineb, a’r gallu yma i wneud gwyrthiau?” medden nhw. “Mab y saer ydy e! Onid Mair ydy ei fam? Onid Iago, Joseff, Simon a Jwdas ydy ei frodyr? Mae ei chwiorydd i gyd yn byw yma! Felly, ble cafodd e hyn i gyd?” Roedden nhw wedi cymryd yn ei erbyn. Ond dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw: “Mae proffwyd yn cael ei barchu ym mhobman ond yn yr ardal lle cafodd ei fagu, a chan ei deulu ei hun!” Wnaeth Iesu ddim llawer o wyrthiau yno am eu bod nhw ddim yn credu.

Mathew 13:1-58 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Y dydd hwnnw yr aeth yr Iesu allan o’r tŷ, ac yr eisteddodd wrth lan y môr. A thorfeydd lawer a ymgynullasant ato ef, fel yr aeth efe i’r llong, ac yr eisteddodd: a’r holl dyrfa a safodd ar y lan. Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau trwy ddamhegion, gan ddywedyd, Wele, yr heuwr a aeth allan i hau. Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd; a’r adar a ddaethant, ac a’i difasant. Peth arall a syrthiodd ar greigleoedd, lle ni chawsant fawr ddaear: ac yn y man yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear: Ac wedi codi yr haul, y poethasant; ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy a wywasant. A pheth arall a syrthiodd ymhlith y drain; a’r drain a godasant, ac a’u tagasant hwy. Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei dri ugeinfed, arall ar ei ddegfed ar hugain. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed. A daeth y disgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy. Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie, yr hyn sydd ganddo. Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion: canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled; ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall. Ac ynddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Eseias, yr hon sydd yn dywedyd, Gan glywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch; Canys brasawyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â’u clustiau yn drwm, ac a gaeasant eu llygaid; rhag canfod â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’r galon, a throi, ac i mi eu hiacháu hwynt. Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled; a’ch clustiau, am eu bod yn clywed: Oblegid yn wir y dywedaf i chwi, chwenychu o lawer o broffwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant. Gwrandewch chwithau gan hynny ddameg yr heuwr. Pan glywo neb air y deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae’r drwg yn dyfod, ac yn cipio’r hyn a heuwyd yn ei galon ef. Dyma’r hwn a heuwyd ar fin y ffordd. A’r hwn a heuwyd ar y creigleoedd, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair, ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn; Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan efe a rwystrir. A’r hwn a heuwyd ymhlith y drain, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair; ac y mae gofal y byd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu’r gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth. Ond yr hwn a heuwyd yn y tir da, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair, ac yn ei ddeall; sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain. Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a heuodd had da yn ei faes: A thra oedd y dynion yn cysgu, daeth ei elyn ef, ac a heuodd efrau ymhlith y gwenith, ac a aeth ymaith. Ac wedi i’r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd. A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni heuaist ti had da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae’r efrau ynddo? Yntau a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddyn a wnaeth hyn. A’r gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned a’u casglu hwynt? Ac efe a ddywedodd, Na fynnaf; rhag i chwi, wrth gasglu’r efrau, ddiwreiddio’r gwenith gyda hwynt. Gadewch i’r ddau gyd-dyfu hyd y cynhaeaf: ac yn amser y cynhaeaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau i’w llwyr losgi; ond cesglwch y gwenith i’m hysgubor. Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn ac a’i heuodd yn ei faes: Yr hwn yn wir sydd leiaf o’r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o’r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef. Dameg arall a lefarodd efe wrthynt; Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl. Hyn oll a lefarodd yr Iesu trwy ddamhegion wrth y torfeydd; ac heb ddameg ni lefarodd efe wrthynt; Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd, Agoraf fy ngenau mewn damhegion; mynegaf bethau cuddiedig er pan seiliwyd y byd. Yna yr anfonodd yr Iesu y torfeydd ymaith, ac yr aeth i’r tŷ: a’i ddisgyblion a ddaethant ato, gan ddywedyd, Eglura i ni ddameg efrau’r maes. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd yn hau’r had da, yw Mab y dyn; A’r maes yw’r byd; a’r had da, hwynt-hwy yw plant y deyrnas; a’r efrau yw plant y drwg; A’r gelyn yr hwn a’u heuodd hwynt, yw diafol; a’r cynhaeaf yw diwedd y byd; a’r medelwyr yw’r angylion. Megis gan hynny y cynullir yr efrau, ac a’u llwyr losgir yn tân; felly y bydd yn niwedd y byd hwn. Mab y dyn a ddenfyn ei angylion, a hwy a gynullant allan o’i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau, a’r rhai a wnânt anwiredd; Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. Yna y llewyrcha’r rhai cyfiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tad. Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed. Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes; yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, a’i cuddiodd, ac o lawenydd amdano, sydd yn myned ymaith, ac yn gwerthu’r hyn oll a fedd, ac yn prynu’r maes hwnnw. Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farchnatawr, yn ceisio perlau teg: Yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerthfawr, a aeth, ac a werthodd gymaint oll ag a feddai, ac a’i prynodd ef. Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr, ac a gasglodd o bob rhyw beth: Yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i’r lan, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg. Felly y bydd yn niwedd y byd: yr angylion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn, Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. Iesu a ddywedodd wrthynt, A ddarfu i chwi ddeall hyn oll? Hwythau a ddywedasant wrtho, Do, Arglwydd. A dywedodd yntau wrthynt, Am hynny pob ysgrifennydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, sydd debyg i ddyn o berchen tŷ, yr hwn sydd yn dwyn allan o’i drysor bethau newydd a hen. A bu, wedi i’r Iesu orffen y damhegion hyn, efe a ymadawodd oddi yno. Ac efe a ddaeth i’w wlad ei hun, ac a’u dysgodd hwynt yn eu synagog; fel y synnodd arnynt, ac y dywedasant, O ba le y daeth y doethineb hwn, a’r gweithredoedd nerthol i’r dyn hwn? Onid hwn yw mab y saer? onid Mair y gelwir ei fam ef? a Iago, a Joses, a Simon, a Jwdas, ei frodyr ef? Ac onid yw ei chwiorydd ef oll gyda ni? o ba le gan hynny y mae gan hwn y pethau hyn oll? A hwy a rwystrwyd ynddo ef. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad ei hun, ac yn ei dŷ ei hun. Ac ni wnaeth efe nemor o weithredoedd nerthol yno, oblegid eu hanghrediniaeth hwynt.