Mathew 13:1-4
Mathew 13:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y diwrnod hwnnw aeth Iesu allan ac eistedd ar lan Llyn Galilea. Roedd cymaint o dyrfa wedi casglu o’i gwmpas nes bod rhaid iddo fynd i eistedd mewn cwch tra oedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan. Roedd yn defnyddio llawer o straeon i rannu ei neges gyda nhw: “Aeth ffermwr allan i hau had. Wrth iddo wasgaru’r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dyma’r adar yn dod a’i fwyta.
Mathew 13:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y diwrnod hwnnw aeth Iesu allan o'r tŷ ac eisteddodd ar lan y môr. Daeth tyrfaoedd mawr ynghyd ato, nes iddo fynd ac eistedd mewn cwch, ac yr oedd yr holl dyrfa yn sefyll ar y lan. Fe lefarodd lawer wrthynt ar ddamhegion, gan ddweud: “Aeth heuwr allan i hau. Ac wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr, a daeth yr adar a'i fwyta.
Mathew 13:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y dydd hwnnw yr aeth yr Iesu allan o’r tŷ, ac yr eisteddodd wrth lan y môr. A thorfeydd lawer a ymgynullasant ato ef, fel yr aeth efe i’r llong, ac yr eisteddodd: a’r holl dyrfa a safodd ar y lan. Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau trwy ddamhegion, gan ddywedyd, Wele, yr heuwr a aeth allan i hau. Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd; a’r adar a ddaethant, ac a’i difasant.