Mathew 11:1-6
Mathew 11:1-6 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Pan oedd Iesu wedi gorffen dysgu ei ddeuddeg disgybl, aeth yn ei flaen ar ei daith o gwmpas trefi Galilea yn dysgu ac yn pregethu. Pan glywodd Ioan Fedyddiwr, oedd yn y carchar, beth oedd Crist yn ei wneud, anfonodd ei ddisgyblion i ofyn iddo, “Ai ti ydy’r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?” Ateb Iesu oedd, “Ewch yn ôl a dweud wrth Ioan beth dych chi wedi’i glywed a’i weld: Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy’n dioddef o’r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Ac mae’r newyddion da yn cael ei gyhoeddi i bobl dlawd! Ac un peth arall: Mae bendith fawr i bwy bynnag sydd ddim yn colli hyder ynddo i.”
Mathew 11:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan orffennodd Iesu ddysgu ei ddeuddeg disgybl, symudodd oddi yno er mwyn dysgu a phregethu yn eu trefi hwy. Pan glywodd Ioan yn y carchar am weithredoedd Crist, anfonodd trwy ei ddisgyblion a gofyn iddo, “Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?” Ac atebodd Iesu hwy, “Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych yn ei glywed ac yn ei weld. Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn ôl, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da. Gwyn ei fyd y sawl na fydd yn cwympo o'm hachos i.”
Mathew 11:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu, pan orffennodd yr Iesu orchymyn i’w ddeuddeg disgybl, efe a aeth oddi yno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy. A Ioan, pan glybu yn y carchar weithredoedd Crist, wedi danfon dau o’i ddisgyblion, A ddywedodd wrtho, Ai tydi yw’r hwn sydd yn dyfod, ai un arall yr ydym yn ei ddisgwyl? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch. Y mae’r deillion yn gweled eilwaith, a’r cloffion yn rhodio, a’r cleifion gwahanol wedi eu glanhau, a’r byddariaid yn clywed; y mae’r meirw yn cyfodi, a’r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt. A dedwydd yw’r hwn ni rwystrir ynof fi.