Mathew 10:26-33
Mathew 10:26-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Peidiwch â'u hofni hwy. Oherwydd nid oes dim wedi ei guddio na ddatguddir, na dim yn guddiedig na cheir ei wybod. Yr hyn a ddywedaf wrthych yn y tywyllwch, dywedwch ef yng ngolau dydd; a'r hyn a sibrydir i'ch clust, cyhoeddwch ef ar bennau'r tai. A pheidiwch ag ofni'r rhai sy'n lladd y corff, ond na allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn sy'n gallu dinistrio'r enaid a'r corff yn uffern. Oni werthir dau aderyn y to am geiniog? Eto nid oes un ohonynt yn syrthio i'r ddaear heb eich Tad. Amdanoch chwi, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni felly; yr ydych chwi'n werth mwy na llawer o adar y to. “Pwy bynnag fydd yn fy arddel i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu harddel hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Ond pwy bynnag fydd yn fy ngwadu i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu gwadu hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
Mathew 10:26-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Felly peidiwch â’u hofni nhw. Bydd popeth sydd wedi’i guddio yn dod i’r golwg, a phob cyfrinach yn cael ei datgelu. Yr hyn dw i’n ei ddweud o’r golwg, dwedwch chi’n agored yng ngolau dydd; beth sy’n cael ei sibrwd yn eich clust, cyhoeddwch yn uchel o bennau’r tai. Peidiwch bod ofn pobl. Maen nhw’n gallu lladd y corff ond fedran nhw ddim lladd y person go iawn. Duw ydy’r un i’w ofni – mae’r gallu ganddo e i ddinistrio’r person a’i gorff yn uffern. Beth ydy gwerth aderyn y to? Dych chi’n gallu prynu dau ohonyn nhw am newid mân! Ond does dim un aderyn bach yn syrthio’n farw heb i’ch Tad wybod am y peth. Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi! Felly peidiwch bod ofn dim byd; dych chi’n llawer mwy gwerthfawr na haid fawr o adar y to! “Pwy bynnag sy’n dweud yn agored o flaen pobl eraill ei fod yn credu ynof fi, bydda innau’n dweud yn agored o flaen fy Nhad yn y nefoedd fod y person hwnnw’n perthyn i mi. Ond pwy bynnag sy’n gwadu ei fod yn credu ynof fi o flaen pobl eraill, bydda innau’n gwadu o flaen fy Nhad yn y nefoedd fod y person hwnnw’n perthyn i mi.
Mathew 10:26-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny nac ofnwch hwynt: oblegid nid oes dim cuddiedig, a’r nas datguddir; na dirgel, a’r nas gwybyddir. Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a’r hyn a glywch yn y glust, pregethwch ar bennau’r tai. Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, ac ni allant ladd yr enaid; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorff yn uffern. Oni werthir dau aderyn y to er ffyrling? ac ni syrth un ohonynt ar y ddaear heb eich Tad chwi. Ac y mae, ie, holl wallt eich pen wedi eu cyfrif. Nac ofnwch gan hynny: chwi a delwch fwy na llawer o adar y to. Pwy bynnag gan hynny a’m cyffeso i yng ngŵydd dynion, minnau a’i cyffesaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd: A phwy bynnag a’m gwado i yng ngŵydd dynion, minnau a’i gwadaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.