Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 10:1-23

Mathew 10:1-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Galwodd y deuddeg disgybl at ei gilydd, a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw ysbrydion drwg allan o bobl a iacháu pob afiechyd a salwch. Dyma enwau’r deuddeg oedd i’w gynrychioli: Simon (oedd yn cael ei alw yn Pedr), Andreas (brawd Pedr), Iago fab Sebedeus, Ioan (brawd Iago), Philip, Bartholomeus, Tomos, a Mathew (oedd yn casglu trethi i Rufain), Iago fab Alffeus, Thadeus, Simon y Selot a Jwdas Iscariot (wnaeth ei fradychu). Nhw oedd y deuddeg anfonodd Iesu allan. A dyma fe’n rhoi’r cyfarwyddiadau yma iddyn nhw: “Peidiwch mynd at y cenhedloedd eraill nac i mewn i un o bentrefi’r Samariaid. Ewch yn lle hynny at bobl Israel, sydd fel defaid ar goll. Dyma’r neges i chi ei chyhoeddi wrth fynd: ‘Mae’r Un nefol yn dod i deyrnasu.’ Ewch i iacháu pobl sy’n glaf, dod â phobl sydd wedi marw yn ôl yn fyw, iacháu’r rhai sy’n dioddef o’r gwahanglwyf, a bwrw allan gythreuliaid o fywydau pobl. Gan eich bod wedi derbyn y cwbl am ddim, rhowch yn rhad ac am ddim. Peidiwch cymryd arian, na hyd yn oed newid mân, gyda chi; dim bag teithio, na dillad a sandalau sbâr, na ffon. Mae’r gweithiwr yn haeddu ei fara menyn. “Ble bynnag ewch chi, i dref neu bentref, edrychwch am rywun sy’n barod i’ch croesawu, ac aros yng nghartre’r person hwnnw nes byddwch yn gadael yr ardal. Wrth fynd i mewn i’r cartref, cyfarchwch y rhai sy’n byw yno. Os oes croeso yno, bydd yn cael ei fendithio; os does dim croeso yno, cymerwch y fendith yn ôl. Os bydd rhywun yn gwrthod rhoi croeso i chi ac yn gwrthod gwrando ar eich neges chi, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed pan fyddwch yn gadael y tŷ neu’r dref honno. Credwch chi fi, bydd hi’n well ar dir Sodom a Gomorra ar ddydd y farn nag ar y dref honno! Dw i’n eich anfon chi allan fel defaid i ganol pac o fleiddiaid. Felly byddwch yn graff fel nadroedd ond yn ddiniwed fel colomennod. “Gwyliwch eich hunain! Bydd pobl yn eich dwyn o flaen yr awdurdodau ac yn eich chwipio yn eu synagogau. Cewch eich llusgo o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd a’ch cyhuddo o fod yn ddilynwyr i mi. Byddwch yn tystiolaethu iddyn nhw ac i bobl o wledydd eraill amdana i. Pan gewch eich arestio, peidiwch poeni beth i’w ddweud o flaen y llys na sut i’w ddweud. Bydd y peth iawn i’w ddweud yn dod i chi ar y pryd. Dim chi fydd yn siarad, ond Ysbryd eich Tad fydd yn siarad trwoch chi. “Bydd dyn yn bradychu ei frawd i gael ei ladd, a thad yn bradychu ei blentyn. Bydd plant yn troi yn erbyn eu rhieni, ac yn eu rhoi i’r awdurdodau i’w dienyddio. Bydd pawb yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi, ond bydd y rhai sy’n sefyll yn gadarn i’r diwedd un yn cael eu hachub. Pan fyddwch yn cael eich erlid yn un lle, ffowch i rywle arall. Credwch chi fi, fyddwch chi ddim wedi gorffen mynd drwy drefi Israel cyn i mi, Mab y Dyn, ddod.

Mathew 10:1-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wedi galw ato ei ddeuddeg disgybl rhoddodd Iesu iddynt awdurdod dros ysbrydion aflan, i'w bwrw allan, ac i iacháu pob afiechyd a phob llesgedd. A dyma enwau'r deuddeg apostol: yn gyntaf Simon, a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, ac Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd, Philip a Bartholomeus, Thomas a Mathew'r casglwr trethi, Iago fab Alffeus, a Thadeus, Simon y Selot, a Jwdas Iscariot, yr un a'i bradychodd ef. Y deuddeg hyn a anfonodd Iesu allan wedi rhoi'r gorchmynion yma iddynt: “Peidiwch â mynd i gyfeiriad y Cenhedloedd, a pheidiwch â mynd i mewn i un o drefi'r Samariaid. Ewch yn hytrach at ddefaid colledig tŷ Israel. Ac wrth fynd cyhoeddwch y genadwri: ‘Y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.’ Iachewch y cleifion, cyfodwch y meirw, glanhewch y gwahanglwyfus, bwriwch allan gythreuliaid; derbyniasoch heb dâl, rhowch heb dâl. Peidiwch â chymryd aur nac arian na phres yn eich gwregys, na chod i'r daith nac ail grys na sandalau na ffon. Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei fwyd. I ba dref neu bentref bynnag yr ewch, holwch pwy sy'n deilwng yno, ac arhoswch yno hyd nes y byddwch yn ymadael â'r ardal. A phan fyddwch yn mynd i mewn i dŷ, cyfarchwch y tŷ. Ac os bydd y tŷ yn deilwng, doed eich tangnefedd arno. Ond os na fydd y tŷ yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch. Ac os bydd rhywun yn gwrthod eich derbyn a gwrthod gwrando ar eich geiriau, ewch allan o'r tŷ hwnnw neu'r dref honno ac ysgydwch y llwch oddi ar eich traed. Yn wir, rwy'n dweud wrthych y caiff tir Sodom a Gomorra lai i'w ddioddef yn Nydd y Farn na'r dref honno. “Dyma fi yn eich anfon allan fel defaid i blith bleiddiaid; felly byddwch yn gall fel seirff ac yn ddiniwed fel colomennod. Gochelwch rhag pobl; oherwydd fe'ch traddodant chwi i lysoedd, ac fe'ch fflangellant yn eu synagogau. Cewch eich dwyn o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd o'm hachos i, i ddwyn tystiolaeth iddynt ac i'r Cenhedloedd. Pan draddodant chwi, peidiwch â phryderu pa fodd na pha beth i lefaru, oherwydd fe roddir i chwi y pryd hwnnw eiriau i'w llefaru. Nid chwi sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad sy'n llefaru ynoch chwi. Bradycha brawd ei frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn, a chyfyd plant yn erbyn eu rhieni a pheri eu lladd. A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i; ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub. Pan erlidiant chwi mewn un dref, ffowch i un arall. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni fyddwch wedi cwblhau trefi Israel cyn dyfod Mab y Dyn.

Mathew 10:1-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac wedi galw ei ddeuddeg disgybl ato, efe a roddes iddynt awdurdod yn erbyn ysbrydion aflan, i’w bwrw hwynt allan, ac i iacháu pob clefyd a phob afiechyd. Ac enwau’r deuddeg apostolion yw’r rhai hyn: Y cyntaf, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Sebedeus, ac Ioan ei frawd; Philip, a Bartholomeus; Thomas, a Mathew y publican; Iago mab Alffeus, a Lebeus, yr hwn a gyfenwid Thadeus; Simon y Canaanead, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a’i bradychodd ef. Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd, ac i ddinas y Samariaid nac ewch i mewn: Eithr ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel. Ac wrth fyned, pregethwch, gan ddywedyd, Fod teyrnas nefoedd yn nesáu. Iachewch y cleifion, glanhewch y rhai gwahanglwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbyniasoch yn rhad, rhoddwch yn rhad. Na feddwch aur, nac arian, nac efydd i’ch pyrsau; Nac ysgrepan i’r daith, na dwy bais, nac esgidiau, na ffon: canys teilwng i’r gweithiwr ei fwyd. Ac i ba ddinas bynnag neu dref yr eloch, ymofynnwch pwy sydd deilwng ynddi; ac yno trigwch hyd onid eloch ymaith. A phan ddeloch i dŷ, cyferchwch well iddo. Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno: ac oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch. A phwy bynnag ni’ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o’r tŷ hwnnw, neu o’r ddinas honno, ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed. Yn wir meddaf i chwi, Esmwythach fydd i dir y Sodomiaid a’r Gomoriaid yn nydd y farn, nag i’r ddinas honno. Wele, yr ydwyf fi yn eich danfon fel defaid yng nghanol bleiddiaid; byddwch chwithau gall fel y seirff, a diniwed fel y colomennod. Eithr ymogelwch rhag dynion; canys hwy a’ch rhoddant chwi i fyny i’r cynghorau, ac a’ch ffrewyllant chwi yn eu synagogau. A chwi a ddygir at lywiawdwyr a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i’r Cenhedloedd. Eithr pan y’ch rhoddant chwi i fyny, na ofelwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a lefaroch. Canys nid chwychwi yw’r rhai sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch. A brawd a rydd frawd i fyny i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a godant i fyny yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu marwolaeth hwynt. A chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig. A phan y’ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i un arall: canys yn wir y dywedaf wrthych, Na orffennwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y dyn.