Mathew 1:21-23
Mathew 1:21-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bachgen fydd hi’n ei gael. Rwyt i roi’r enw Iesu iddo, am mai fe fydd yn achub ei bobl o’u pechodau.” Digwyddodd hyn er mwyn i beth ddwedodd Duw drwy ei broffwyd ddod yn wir: “Edrychwch! Bydd merch ifanc sy’n wyryf yn feichiog ac yn cael mab. Bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel” (Ystyr Emaniwel ydy “Mae Duw gyda ni.”)
Mathew 1:21-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydd yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau.” A digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd: “Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab, a gelwir ef Immanuel”
Mathew 1:21-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU: oblegid efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau. (A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd, Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab; a hwy a alwant ei enw ef Emanuel; yr hyn o’i gyfieithu yw, Duw gyda ni.)