Malachi 3:16
Malachi 3:16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond yna, dyma’r rhai oedd wir yn parchu’r ARGLWYDD yn trafod gyda’i gilydd. Clywodd yr ARGLWYDD nhw, a chymryd sylw o’r peth, a gorchymyn i gofnod gael ei ysgrifennu yn y sgrôl sy’n rhestru’r rhai sy’n parchu’r ARGLWYDD ac yn meddwl yn uchel ohono.
Rhanna
Darllen Malachi 3Malachi 3:16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna, fel yr oedd y rhai a ofnai Dduw yn siarad â'i gilydd, sylwodd Duw a gwrando, ac ysgrifennwyd ger ei fron gofrestr o'r rhai a oedd yn ofni'r ARGLWYDD ac yn meddwl am ei enw.
Rhanna
Darllen Malachi 3Malachi 3:16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y rhai oedd yn ofni yr ARGLWYDD a lefarasant bob un wrth ei gymydog: a’r ARGLWYDD a wrandawodd, ac a glybu; ac ysgrifennwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i’r rhai oedd yn ofni yr ARGLWYDD, ac i’r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef.
Rhanna
Darllen Malachi 3