Malachi 3:10-12
Malachi 3:10-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dewch â’r degwm llawn i’r stordy, fel bod yna fwyd yn fy nheml. Ie, rhowch fi ar brawf,” –meddai’r ARGLWYDD hollbwerus, “a chewch weld y bydda i’n agor llifddorau’r nefoedd ac yn tywallt bendith arnoch chi; fyddwch chi’n brin o ddim byd! Bydda i’n cael gwared â’r locustiaid, rhag iddyn nhw ddinistrio cnydau’r tir; fydd y gwinwydd yn y winllan ddim yn methu,” –meddai’r ARGLWYDD hollbwerus. “Bydd y gwledydd eraill i gyd yn dweud eich bod wedi’ch bendithio, am eich bod yn byw mewn gwlad mor hyfryd,” –meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.
Malachi 3:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dygwch y degwm llawn i'r trysordy, fel y bo bwyd yn fy nhŷ. Profwch fi yn hyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “nes imi agor i chwi ffenestri'r nefoedd a thywallt arnoch fendith yn helaeth. Ceryddaf hefyd y locust, rhag iddo ddifetha cynnyrch eich tir a gwneud eich gwinwydden yn ddiffrwyth,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “Yna bydd yr holl genhedloedd yn dweud, ‘Gwyn eich byd’, oherwydd byddwch yn wlad o hyfrydwch,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
Malachi 3:10-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dygwch yr holl ddegwm i’r trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nhŷ; a phrofwch fi yr awr hon yn hyn, medd ARGLWYDD y lluoedd, onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd, a thywallt i chwi fendith, fel na byddo digon o le i’w derbyn. Myfi hefyd a argyhoeddaf er eich mwyn chwi yr ormes, ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear: a’r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd. A’r holl genhedloedd a’ch galwant chwi yn wynfydedig: canys byddwch yn wlad hyfryd, medd ARGLWYDD y lluoedd.