Luc 9:59-62
Luc 9:59-62 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac meddai wrth un arall, “Canlyn fi.” Meddai yntau, “Arglwydd, caniatâ imi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad.” Ond meddai ef wrtho, “Gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain; dos di a chyhoedda deyrnas Dduw.” Ac meddai un arall, “Canlynaf di, Arglwydd; ond yn gyntaf caniatâ imi ffarwelio â'm teulu.” Ond meddai Iesu wrtho, “Nid yw'r sawl a osododd ei law ar yr aradr, ac sy'n edrych yn ôl, yn addas i deyrnas Dduw.”
Luc 9:59-62 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dwedodd Iesu wrth rywun arall, “Tyrd, dilyn fi.” Ond dyma’r dyn yn dweud, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.” Ond ateb Iesu oedd, “Gad i’r rhai sy’n farw eu hunain gladdu eu meirw; dy waith di ydy cyhoeddi fod Duw yn dod i deyrnasu.” Dwedodd rhywun arall wedyn, “Gwna i dy ddilyn di, Arglwydd; ond gad i mi fynd i ffarwelio â’m teulu gyntaf.” Atebodd Iesu, “Dydy’r sawl sy’n gafael yn yr aradr ac yn edrych yn ôl ddim ffit i wasanaethu’r Duw sy’n teyrnasu.”
Luc 9:59-62 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Dilyn fi. Ac yntau a ddywedodd, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gad i’r meirw gladdu eu meirw: ond dos di, a phregetha deyrnas Dduw. Ac un arall hefyd a ddywedodd, Mi a’th ddilynaf di, O Arglwydd; ond gad i mi yn gyntaf ganu’n iach i’r rhai sydd yn fy nhŷ. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a’r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o’i ôl, yn gymwys i deyrnas Dduw.