Luc 9:46-48
Luc 9:46-48 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r disgyblion yn dechrau dadlau pwy ohonyn nhw oedd y pwysica. Roedd Iesu’n gwybod beth oedd yn mynd drwy eu meddyliau, a gosododd blentyn bach i sefyll wrth ei ymyl. Yna meddai wrthyn nhw, “Mae pwy bynnag sy’n rhoi croeso i’r plentyn bach yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag sy’n rhoi croeso i mi yn croesawu’r Un sydd wedi fy anfon i. Mae’r un lleia pwysig ohonoch chi yn bwysig dros ben.”
Luc 9:46-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cododd trafodaeth yn eu plith, p'run ohonynt oedd y mwyaf. Ond gwyddai Iesu am feddyliau eu calonnau. Cymerodd blentyn, a'i osod wrth ei ochr, ac meddai wrthynt, “Pwy bynnag sy'n derbyn y plentyn hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i; a phwy bynnag sy'n fy nerbyn i, y mae'n derbyn yr hwn a'm hanfonodd i. Oherwydd y lleiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw sydd fawr.”
Luc 9:46-48 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dadl a gyfododd yn eu plith, pwy a fyddai fwyaf ohonynt. A’r Iesu, wrth weled meddwl eu calon hwynt, a gymerth fachgennyn, ac a’i gosododd yn ei ymyl, Ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio’r bachgennyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynnag a’m derbynio i, sydd yn derbyn yr hwn a’m hanfonodd i: canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw a fydd mawr.