Luc 9:23-25
Luc 9:23-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dwedodd wrth bawb oedd yno: “Rhaid i bwy bynnag sydd am fy nilyn i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill bob dydd, a cherdded yr un llwybr â mi. Bydd y rhai sy’n ceisio cadw eu bywyd eu hunain yn colli’r bywyd go iawn, ond y rhai sy’n barod i ollwng gafael ar eu bywyd er fy mwyn i yn diogelu bywyd go iawn. Beth ydy’r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i’w gynnig, a cholli eich hunan?
Luc 9:23-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dywedodd wrth bawb, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes bob dydd a'm canlyn i. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i ceidw. Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a'i ddifetha neu ei fforffedu ei hun?
Luc 9:23-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a choded ei groes beunydd, a dilyned fi. Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos i, hwnnw a’i ceidw hi. Canys pa lesâd i ddyn, er ennill yr holl fyd, a’i ddifetha’i hun, neu fod wedi ei golli?