Luc 9:18-24
Luc 9:18-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Un tro pan oedd Iesu wedi bod yn gweddïo ar ei ben ei hun, aeth at ei ddisgyblion a gofyn iddyn nhw, “Pwy mae’r bobl yn ei ddweud ydw i?” Dyma nhw’n ateb, “Mae rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti; eraill yn dweud Elias; a phobl eraill eto’n dweud fod un o’r proffwydi ers talwm wedi dod yn ôl yn fyw.” “Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chi’n ddweud ydw i?” Atebodd Pedr, “Meseia Duw.” Ond dyma Iesu’n pwyso’n drwm arnyn nhw i beidio dweud wrth neb. Dwedodd wrthyn nhw, “Mae’n rhaid i mi, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy. Bydd yr arweinwyr, y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn fy ngwrthod i. Bydda i’n cael fy lladd, ond yna’n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.” Yna dwedodd wrth bawb oedd yno: “Rhaid i bwy bynnag sydd am fy nilyn i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill bob dydd, a cherdded yr un llwybr â mi. Bydd y rhai sy’n ceisio cadw eu bywyd eu hunain yn colli’r bywyd go iawn, ond y rhai sy’n barod i ollwng gafael ar eu bywyd er fy mwyn i yn diogelu bywyd go iawn.
Luc 9:18-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan oedd Iesu'n gweddïo o'r neilltu yng nghwmni'r disgyblion, gofynnodd iddynt, “Pwy y mae'r tyrfaoedd yn dweud ydwyf fi?” Atebasant hwythau, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn fod un o'r hen broffwydi wedi atgyfodi.” “A chwithau,” gofynnodd iddynt, “pwy meddwch chwi ydwyf fi?” Atebodd Pedr, “Meseia Duw.” Rhybuddiodd ef hwy, a'u gwahardd rhag dweud hyn wrth neb. “Y mae'n rhaid i Fab y Dyn,” meddai, “ddioddef llawer a chael ei wrthod gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi.” A dywedodd wrth bawb, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes bob dydd a'm canlyn i. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i ceidw.
Luc 9:18-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gweddïo ei hunan, fod ei ddisgyblion gydag ef: ac efe a ofynnodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae’r bobl yn dywedyd fy mod i? Hwythau gan ateb a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ond eraill, mai Eleias; ac eraill, mai rhyw broffwyd o’r rhai gynt a atgyfododd. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phedr gan ateb a ddywedodd, Crist Duw. Ac efe a roes orchymyn arnynt, ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb; Gan ddywedyd, Mae’n rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a’r trydydd dydd atgyfodi. Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a choded ei groes beunydd, a dilyned fi. Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos i, hwnnw a’i ceidw hi.