Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 9:1-17

Luc 9:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Galwodd Iesu y deuddeg disgybl at ei gilydd, a rhoi nerth ac awdurdod iddyn nhw fwrw allan gythreuliaid a iacháu pobl. Yna anfonodd nhw allan i gyhoeddi bod Duw yn teyrnasu, ac i iacháu pobl. Dwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd gyda chi – dim ffon, dim bag teithio, dim bwyd, dim arian, dim hyd yn oed dillad sbâr. Pan gewch groeso yng nghartre rhywun, arhoswch yno nes byddwch chi’n gadael y dre. Os na chewch chi groeso yn rhywle, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael y dref honno. Bydd hynny’n arwydd o farn Duw arnyn nhw!” Felly i ffwrdd â nhw i deithio o un pentref i’r llall gan gyhoeddi’r newyddion da a iacháu pobl ym mhobman. Clywodd y llywodraethwr Herod am y cwbl oedd yn digwydd. Roedd mewn penbleth, am fod rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr oedd wedi dod yn ôl yn fyw. Roedd eraill yn dweud mai’r proffwyd Elias oedd wedi dod, ac eraill eto’n meddwl mai un o broffwydi’r gorffennol oedd wedi dod yn ôl yn fyw. “Torrais ben Ioan i ffwrdd,” meddai Herod, “felly, pwy ydy hwn dw i’n clywed y pethau yma amdano?” Roedd ganddo eisiau gweld Iesu. Pan ddaeth yr apostolion yn ôl, dyma nhw’n dweud wrth Iesu beth roedden nhw wedi’i wneud. Yna aeth Iesu â nhw i ffwrdd ar eu pennau’u hunain, i dref o’r enw Bethsaida. Ond clywodd y tyrfaoedd ble roedd wedi mynd, a’i ddilyn yno. Dyma Iesu’n eu croesawu ac yn siarad â nhw am Dduw yn teyrnasu, a iacháu y rhai ohonyn nhw oedd yn sâl. Yn hwyr yn y p’nawn dyma’r deuddeg disgybl yn dod ato a dweud wrtho, “Anfon y dyrfa i ffwrdd, iddyn nhw fynd i’r pentrefi sydd o gwmpas i gael llety a bwyd. Mae’r lle yma yn anial.” Ond dwedodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i’w fwyta iddyn nhw.” “Dim ond pum torth fach a dau bysgodyn sydd gynnon ni,” medden nhw. “Wyt ti’n disgwyl i ni fynd i brynu bwyd i’r bobl yma i gyd?” (Roedd tua pum mil o ddynion yno!) Dyma Iesu’n dweud wrth ei ddisgyblion, “Gwnewch iddyn nhw eistedd mewn grwpiau o tua hanner cant.” Dyma’r disgyblion yn gwneud hynny, ac eisteddodd pawb. Wedyn dyma Iesu’n cymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a’i roi i’w ddisgyblion i’w rannu i’r bobl. Cafodd pawb ddigon i’w fwyta, a dyma nhw’n casglu deuddeg llond basged o dameidiau oedd dros ben.

Luc 9:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Galwodd Iesu y Deuddeg ynghyd a rhoddodd iddynt nerth ac awdurdod i fwrw allan gythreuliaid o bob math ac i wella clefydau. Yna anfonodd hwy allan i gyhoeddi teyrnas Dduw ac i iacháu'r cleifion. Meddai wrthynt, “Peidiwch â chymryd dim ar gyfer y daith, na ffon na chod na bara nac arian, na bod â dau grys yr un. I ba dŷ bynnag yr ewch, arhoswch yno nes y byddwch yn ymadael â'r ardal; a phwy bynnag fydd yn gwrthod eich derbyn, ewch allan o'r dref honno ac ysgwyd ymaith y llwch oddi ar eich traed, yn rhybudd iddynt.” Aethant allan a theithio o bentref i bentref, gan gyhoeddi'r newydd da ac iacháu ym mhob man. Clywodd y Tywysog Herod am yr holl bethau oedd yn digwydd. Yr oedd mewn cyfyng-gyngor am fod rhai yn dweud fod Ioan wedi ei godi oddi wrth y meirw, ac eraill fod Elias wedi ymddangos, ac eraill wedyn fod un o'r hen broffwydi wedi atgyfodi. Ond meddai Herod, “Fe dorrais i ben Ioan; ond pwy yw hwn yr wyf yn clywed y fath bethau amdano?” Ac yr oedd yn ceisio cael ei weld ef. Dychwelodd yr apostolion a dywedasant wrth Iesu yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud. Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida. Ond pan glywodd y tyrfaoedd hyn aethant ar ei ôl. Croesawodd ef hwy, a dechrau llefaru wrthynt am deyrnas Dduw ac iacháu'r rhai ag angen gwellhad arnynt. Yn awr yr oedd y dydd yn dechrau dirwyn i ben, a daeth y Deuddeg ato a dweud, “Gollwng y dyrfa, iddynt fynd i'r pentrefi a'r wlad o amgylch a chael llety a bwyd, oherwydd yr ydym mewn lle unig yma.” Meddai ef wrthynt, “Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.” Meddent hwy, “Nid oes gennym ddim ond pum torth a dau bysgodyn, heb inni fynd a phrynu bwyd i'r holl bobl hyn.” Yr oeddent ynghylch pum mil o wŷr. Ac meddai ef wrth ei ddisgyblion, “Parwch iddynt eistedd yn gwmnïoedd o ryw hanner cant yr un.” Gwnaethant felly, a pheri i bawb eistedd. Cymerodd yntau y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef fe'u bendithiodd, a'u torri, a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron y dyrfa. Bwytasant a chafodd pawb ddigon. A chodwyd deuddeg basgedaid o dameidiau o'r hyn oedd dros ben ganddynt.

Luc 9:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac efe a alwodd ynghyd ei ddeuddeg disgybl, ac a roddes iddynt feddiant ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iacháu clefydau. Ac efe a’u hanfonodd hwynt i bregethu teyrnas Dduw, ac i iacháu’r rhai cleifion. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chymerwch ddim i’r daith, na ffyn nac ysgrepan, na bara, nac arian; ac na fydded gennych ddwy bais bob un. Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi yno ymadewch. A pha rai bynnag ni’ch derbyniant, pan eloch allan o’r ddinas honno, ysgydwch hyd yn oed y llwch oddi wrth eich traed, yn dystiolaeth yn eu herbyn hwynt. Ac wedi iddynt fyned allan, hwy a aethant trwy’r trefi, gan bregethu’r efengyl, a iacháu ym mhob lle. A Herod y tetrarch a glybu’r cwbl oll a wnaethid ganddo; ac efe a betrusodd, am fod rhai yn dywedyd gyfodi Ioan o feirw; A rhai eraill, ymddangos o Eleias; a rhai eraill, mai proffwyd, un o’r rhai gynt, a atgyfodasai. A Herod a ddywedodd, Ioan a dorrais i ei ben: ond pwy ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau amdano? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef. A’r apostolion, wedi dychwelyd, a fynegasant iddo’r cwbl a wnaethent. Ac efe a’u cymerth hwynt, ac a aeth o’r neilltu, i le anghyfannedd yn perthynu i’r ddinas a elwir Bethsaida. A’r bobloedd pan wybuant, a’i dilynasant ef: ac efe a’u derbyniodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am deyrnas Dduw, ac a iachaodd y rhai oedd arnynt eisiau eu hiacháu. A’r dydd a ddechreuodd hwyrhau; a’r deuddeg a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Gollwng y dyrfa ymaith, fel y gallont fyned i’r trefi, ac i’r wlad oddi amgylch, i letya, ac i gael bwyd: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfannedd. Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes gennym ni ond pum torth, a dau bysgodyn, oni bydd inni fyned a phrynu bwyd i’r bobl hyn oll. Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau, bob yn ddeg a deugain. Ac felly y gwnaethant; a hwy a wnaethant iddynt oll eistedd. Ac efe a gymerodd y pum torth, a’r ddau bysgodyn, ac a edrychodd i fyny i’r nef, ac a’u bendithiodd hwynt, ac a’u torrodd, ac a’u rhoddodd i’r disgyblion i’w gosod gerbron y bobl. A hwynt-hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon: a chyfodwyd a weddillasai iddynt o friwfwyd, ddeuddeg basgedaid.