Luc 8:40-42
Luc 8:40-42 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan aeth Iesu yn ôl i ochr draw’r llyn, roedd tyrfa yno i’w groesawu – roedden nhw wedi bod yn disgwyl amdano. Dyma ddyn o’r enw Jairus, un o arweinwyr y synagog, yn dod ato. Syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a chrefu’n daer arno i fynd i’w dŷ. Roedd ei ferch fach ddeuddeg oed, oedd yn unig blentyn, yn marw. Wrth iddo fynd, roedd y dyrfa yn gwasgu o’i gwmpas.
Luc 8:40-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddychwelodd Iesu croesawyd ef gan y dyrfa, oherwydd yr oedd pawb yn disgwyl amdano. A dyma ddyn o'r enw Jairus yn dod, ac yr oedd ef yn arweinydd yn y synagog; syrthiodd hwn wrth draed Iesu ac ymbil arno i ddod i'w gartref, am fod ganddo unig ferch, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a'i bod hi'n marw. Tra oedd ef ar ei ffordd yr oedd y tyrfaoedd yn gwasgu arno.
Luc 8:40-42 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu, pan ddychwelodd yr Iesu, dderbyn o’r bobl ef: canys yr oeddynt oll yn disgwyl amdano ef. Ac wele, daeth gŵr a’i enw Jairus; ac efe oedd lywodraethwr y synagog: ac efe a syrthiodd wrth draed yr Iesu, ac a atolygodd iddo ddyfod i’w dŷ ef: Oherwydd yr oedd iddo ferch unig-anedig, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a hon oedd yn marw. Ond fel yr oedd efe yn myned, y bobloedd a’i gwasgent ef.