Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 8:22-39

Luc 8:22-39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Un diwrnod dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Beth am i ni groesi i ochr draw’r llyn?” Felly i ffwrdd â nhw mewn cwch. Wrth groesi’r llyn syrthiodd Iesu i gysgu. Daeth storm ofnadwy ar y llyn ac roedd y cwch yn llenwi â dŵr nes eu bod nhw mewn peryg o suddo. Dyma’r disgyblion yn mynd at Iesu a’i ddeffro, ac yn dweud wrtho, “Feistr! dŷn ni’n suddo feistr!” Cododd Iesu ar ei draed a cheryddu’r gwynt a’r tonnau gwyllt; a dyma’r storm yn stopio, ac roedd pobman yn hollol dawel. “Ble mae’ch ffydd chi?” gofynnodd i’w ddisgyblion. Roedden nhw wedi dychryn ac yn rhyfeddu at beth ddigwyddodd. “Pwy ydy hwn?” medden nhw, “Mae hyd yn oed yn rhoi gorchymyn i’r gwynt a’r dŵr, ac maen nhw’n ufuddhau iddo.” Dyma nhw’n cyrraedd ardal Gerasa sydd yr ochr draw i’r llyn o Galilea. Wrth i Iesu gamu allan o’r cwch i’r lan dyma ddyn o’r dref oedd yng ngafael cythreuliaid yn dod i’w gyfarfod. Doedd y dyn yma ddim wedi gwisgo dillad na byw mewn tŷ ers amser maith – roedd wedi bod yn byw yng nghanol y beddau. Pan welodd Iesu, rhoddodd y dyn sgrech a syrthio i lawr o’i flaen gan weiddi nerth ei ben, “Gad di lonydd i mi, Iesu, mab y Duw Goruchaf! Dw i’n crefu arnat ti, paid poenydio fi!” (Roedd Iesu newydd orchymyn i’r ysbryd drwg ddod allan o’r dyn. Ers amser hir roedd yr ysbryd wedi meistroli’r dyn yn llwyr. Roedd rhaid iddo gael ei warchod, gyda’i ddwylo a’i draed mewn cadwyni. Ond roedd yn llwyddo i ddianc o hyd, ac roedd y cythraul yn ei yrru allan i’r anialwch.) A dyma Iesu’n gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Lleng,” atebodd, achos roedd llawer o gythreuliaid wedi mynd iddo. Roedden nhw’n pledio’n daer ar i Iesu beidio gorchymyn iddyn nhw fynd i’r dyfnder tywyll. Roedd cenfaint fawr o foch yn pori ar ochr bryn cyfagos, a dyma’r cythreuliaid yn pledio ar Iesu i adael iddyn nhw fynd i fyw yn y moch. Felly dyma Iesu’n rhoi caniatâd iddyn nhw. Pan aeth y cythreuliaid allan o’r dyn a mynd i mewn i’r moch, dyma’r moch i gyd yn rhuthro i lawr y llechwedd serth i mewn i’r llyn, a boddi. Pan welodd y rhai oedd yn gofalu am y moch beth ddigwyddodd, dyma nhw’n rhedeg i ffwrdd a dweud wrth bawb. Aeth pobl allan i weld drostyn nhw’u hunain. Dyma nhw’n dychryn pan ddaethon nhw at Iesu, achos dyna lle roedd y dyn roedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn eistedd yn dawel o flaen Iesu yn gwisgo dillad ac yn ei iawn bwyll. Dwedodd y llygad-dystion eto sut roedd y dyn yng ngafael cythreuliaid wedi cael ei iacháu. Felly, ar ôl hynny dyma bobl ardal Gerasa i gyd yn gofyn i Iesu adael, achos roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Felly aeth Iesu yn ôl i’r cwch. Dyma’r dyn roedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn erfyn am gael aros gydag e, ond dyma Iesu yn ei anfon i ffwrdd a dweud wrtho, “Dos yn ôl adre i ddweud am y cwbl mae Duw wedi’i wneud i ti.” Felly i ffwrdd â’r dyn, a dweud wrth bawb yn y dref am bopeth roedd Iesu wedi’i wneud iddo.

Luc 8:22-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Un diwrnod, aeth ef i mewn i gwch, a'i ddisgyblion hefyd, ac meddai wrthynt, “Awn drosodd i ochr draw'r llyn,” a hwyliasant ymaith. Tra oeddent ar y dŵr, aeth Iesu i gysgu. A disgynnodd tymestl o wynt ar y llyn; yr oedd y cwch yn llenwi, a hwythau mewn perygl. Aethant ato a'i ddeffro, a dweud, “Meistr, meistr, mae hi ar ben arnom!” Deffrôdd ef, a cheryddodd y gwynt a'r dyfroedd tymhestlog; darfu'r dymestl a bu tawelwch. Yna meddai ef wrthynt, “Ble mae eich ffydd?” Daeth ofn a syndod arnynt, ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy ynteu yw hwn? Y mae'n gorchymyn hyd yn oed y gwyntoedd a'r dyfroedd, a hwythau'n ufuddhau iddo.” Daethant i'r lan i wlad y Geraseniaid, sydd gyferbyn â Galilea. Pan laniodd ef, daeth i'w gyfarfod ddyn o'r dref â chythreuliaid ynddo. Ers amser maith nid oedd wedi gwisgo dilledyn, ac nid mewn tŷ yr oedd yn byw ond ymhlith y beddau. Pan welodd ef Iesu, rhoes floedd a syrthio o'i flaen, gan weiddi â llais uchel, “Beth sydd a fynni di â mi, Iesu Fab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn erfyn arnat, paid â'm poenydio.” Oherwydd yr oedd ef wedi gorchymyn i'r ysbryd aflan fynd allan o'r dyn. Aml i dro yr oedd yr ysbryd wedi cydio ynddo, ac er ei rwymo â chadwynau a llyffetheiriau a'i warchod, byddai'n dryllio'r rhwymau, a'r cythraul yn ei yrru i'r unigeddau. Yna gofynnodd Iesu iddo, “Beth yw dy enw?” “Lleng,” meddai yntau, oherwydd yr oedd llawer o gythreuliaid wedi mynd i mewn iddo. Dechreusant ymbil ar Iesu i beidio â gorchymyn iddynt fynd ymaith i'r dyfnder. Yr oedd yno genfaint fawr o foch yn pori ar y mynydd. Ymbiliodd y cythreuliaid arno i ganiatáu iddynt fynd i mewn i'r moch; ac fe ganiataodd iddynt. Aeth y cythreuliaid allan o'r dyn ac i mewn i'r moch, a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r llyn a boddi. Pan welodd bugeiliaid y moch beth oedd wedi digwydd fe ffoesant, gan adrodd yr hanes yn y dref ac yn y wlad. Daeth pobl allan i weld beth oedd wedi digwydd. Daethant at Iesu, a chael y dyn yr oedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn eistedd wrth draed Iesu, â'i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll; a daeth arnynt ofn. Adroddwyd yr hanes wrthynt gan y rhai oedd wedi gweld sut yr iachawyd y dyn oedd wedi bod ym meddiant cythreuliaid. Yna gofynnodd holl boblogaeth gwlad y Geraseniaid iddo fynd ymaith oddi wrthynt, am fod ofn mawr wedi cydio ynddynt; ac aeth ef i mewn i'r cwch i ddychwelyd. Yr oedd y dyn yr oedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn erfyn am gael bod gydag ef; ond anfonodd Iesu ef yn ei ôl, gan ddweud, “Dychwel adref, ac adrodd gymaint y mae Duw wedi ei wneud drosot.” Ac aeth ef ymaith trwy'r holl dref gan gyhoeddi gymaint yr oedd Iesu wedi ei wneud drosto.

Luc 8:22-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A bu ar ryw ddiwrnod, ac efe a aeth i long, efe a’i ddisgyblion: a dywedodd wrthynt, Awn trosodd i’r tu hwnt i’r llyn. A hwy a gychwynasant. Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a chawod o wynt a ddisgynnodd ar y llyn; ac yr oeddynt yn llawn o ddwfr, ac mewn enbydrwydd. A hwy a aethant ato, ac a’i deffroesant ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, darfu amdanom. Ac efe a gyfododd, ac a geryddodd y gwynt a’r tonnau dwfr: a hwy a beidiasant, a hi a aeth yn dawel. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy wedi ofni, a ryfeddasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn i’r gwyntoedd ac i’r dwfr hefyd, a hwythau yn ufuddhau iddo? A hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid, yr hon sydd o’r tu arall, ar gyfer Galilea. Ac wedi iddo fyned allan i dir, cyfarfu ag ef ryw ŵr o’r ddinas, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid er ys talm o amser; ac ni wisgai ddillad, ac nid arhosai mewn tŷ, ond yn y beddau. Hwn, wedi gweled yr Iesu, a dolefain, a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a ddywedodd â llef uchel, Beth sydd i mi â thi, O Iesu, Fab Duw goruchaf? yr wyf yn atolwg i ti na’m poenech. (Canys efe a orchmynasai i’r ysbryd aflan ddyfod allan o’r dyn. Canys llawer o amserau y cipiasai ef: ac efe a gedwid yn rhwym â chadwynau, ac â llyffetheiriau; ac wedi dryllio’r rhwymau, efe a yrrwyd gan y cythraul i’r diffeithwch.) A’r Iesu a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Beth yw dy enw di? Yntau a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethent iddo ef. A hwy a ddeisyfasant arno, na orchmynnai iddynt fyned i’r dyfnder. Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn pori ar y mynydd: a hwynt-hwy a atolygasant iddo adael iddynt fyned i mewn i’r rhai hynny. Ac efe a adawodd iddynt. A’r cythreuliaid a aethant allan o’r dyn, ac a aethant i mewn i’r moch: a’r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i’r llyn, ac a foddwyd. A phan welodd y meichiaid yr hyn a ddarfuasai, hwy a ffoesant, ac a aethant, ac a fynegasant yn y ddinas, ac yn y wlad. A hwy a aethant allan i weled y peth a wnaethid; ac a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn, o’r hwn yr aethai’r cythreuliaid allan, yn ei ddillad, a’i iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Iesu: a hwy a ofnasant. A’r rhai a welsent, a fynegasant hefyd iddynt pa fodd yr iachasid y cythreulig. A’r holl liaws o gylch gwlad y Gadareniaid a ddymunasant arno fyned ymaith oddi wrthynt; am eu bod mewn ofn mawr. Ac efe wedi myned i’r llong, a ddychwelodd. A’r gŵr o’r hwn yr aethai’r cythreuliaid allan, a ddeisyfodd arno gael bod gydag ef: eithr yr Iesu a’i danfonodd ef ymaith, gan ddywedyd, Dychwel i’th dŷ, a dangos faint o bethau a wnaeth Duw i ti. Ac efe a aeth, dan bregethu trwy gwbl o’r ddinas, faint a wnaethai’r Iesu iddo.