Luc 8:22-25
Luc 8:22-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Un diwrnod dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Beth am i ni groesi i ochr draw’r llyn?” Felly i ffwrdd â nhw mewn cwch. Wrth groesi’r llyn syrthiodd Iesu i gysgu. Daeth storm ofnadwy ar y llyn ac roedd y cwch yn llenwi â dŵr nes eu bod nhw mewn peryg o suddo. Dyma’r disgyblion yn mynd at Iesu a’i ddeffro, ac yn dweud wrtho, “Feistr! dŷn ni’n suddo feistr!” Cododd Iesu ar ei draed a cheryddu’r gwynt a’r tonnau gwyllt; a dyma’r storm yn stopio, ac roedd pobman yn hollol dawel. “Ble mae’ch ffydd chi?” gofynnodd i’w ddisgyblion. Roedden nhw wedi dychryn ac yn rhyfeddu at beth ddigwyddodd. “Pwy ydy hwn?” medden nhw, “Mae hyd yn oed yn rhoi gorchymyn i’r gwynt a’r dŵr, ac maen nhw’n ufuddhau iddo.”
Luc 8:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Un diwrnod, aeth ef i mewn i gwch, a'i ddisgyblion hefyd, ac meddai wrthynt, “Awn drosodd i ochr draw'r llyn,” a hwyliasant ymaith. Tra oeddent ar y dŵr, aeth Iesu i gysgu. A disgynnodd tymestl o wynt ar y llyn; yr oedd y cwch yn llenwi, a hwythau mewn perygl. Aethant ato a'i ddeffro, a dweud, “Meistr, meistr, mae hi ar ben arnom!” Deffrôdd ef, a cheryddodd y gwynt a'r dyfroedd tymhestlog; darfu'r dymestl a bu tawelwch. Yna meddai ef wrthynt, “Ble mae eich ffydd?” Daeth ofn a syndod arnynt, ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy ynteu yw hwn? Y mae'n gorchymyn hyd yn oed y gwyntoedd a'r dyfroedd, a hwythau'n ufuddhau iddo.”
Luc 8:22-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu ar ryw ddiwrnod, ac efe a aeth i long, efe a’i ddisgyblion: a dywedodd wrthynt, Awn trosodd i’r tu hwnt i’r llyn. A hwy a gychwynasant. Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a chawod o wynt a ddisgynnodd ar y llyn; ac yr oeddynt yn llawn o ddwfr, ac mewn enbydrwydd. A hwy a aethant ato, ac a’i deffroesant ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, darfu amdanom. Ac efe a gyfododd, ac a geryddodd y gwynt a’r tonnau dwfr: a hwy a beidiasant, a hi a aeth yn dawel. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy wedi ofni, a ryfeddasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn i’r gwyntoedd ac i’r dwfr hefyd, a hwythau yn ufuddhau iddo?