Luc 8:2-3
Luc 8:2-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ynghyd â rhai gwragedd oedd wedi eu hiacháu oddi wrth ysbrydion drwg ac afiechydon: Mair a elwid Magdalen, yr un yr oedd saith gythraul wedi dod allan ohoni; Joanna gwraig Chwsa, goruchwyliwr Herod; Swsanna, a llawer eraill; yr oedd y rhain yn gweini arnynt o'u hadnoddau eu hunain.
Luc 8:2-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
a hefyd rhyw wragedd oedd wedi cael eu hiacháu o effeithiau ysbrydion drwg ac afiechydon: Mair, oedd yn cael ei galw’n Magdalen – roedd saith o gythreuliaid wedi dod allan ohoni hi; Joanna, gwraig Chwsa (prif reolwr palas Herod); Swsana, a nifer o rai eraill oedd yn defnyddio’u harian i helpu i gynnal Iesu a’i ddisgyblion.
Luc 8:2-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A gwragedd rai, a’r a iachesid oddi wrth ysbrydion drwg a gwendid; Mair yr hon a elwid Magdalen, o’r hon yr aethai saith gythraul allan; Joanna, gwraig Chusa goruchwyliwr Herod, a Susanna, a llawer eraill, y rhai oedd yn gweini iddo o’r pethau oedd ganddynt.