Luc 6:39-45
Luc 6:39-45 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma Iesu’n dyfynnu’r hen ddywediad: “‘Ydy dyn dall yn gallu arwain dyn dall arall?’ Nac ydy wrth gwrs! Bydd y ddau yn disgyn i ffos gyda’i gilydd! Dydy disgybl ddim yn dysgu ei athro – ond ar ôl cael ei hyfforddi’n llawn mae’n dod yn debyg i’w athro. “Pam wyt ti’n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad di dy hun!? Sut alli di ddweud, ‘Gyfaill, gad i mi dynnu’r sbecyn yna sydd yn dy lygad di,’ pan wyt ti’n methu’n lân â gweld dim am fod trawst yn sticio allan o dy lygad dy hun? Rwyt ti mor ddauwynebog! Tynna’r trawst allan o dy lygad dy hun yn gyntaf, ac wedyn byddi’n gweld yn ddigon clir i dynnu’r sbecyn allan o lygad y person arall. “Dydy ffrwyth drwg ddim yn tyfu ar goeden iach, na ffrwyth da ar goeden wael. Y ffrwyth sy’n dangos sut goeden ydy hi. Dydy ffigys ddim yn tyfu ar ddrain, na grawnwin ar fieri. Mae pobl dda yn gwneud y daioni sydd wedi’i storio yn eu calonnau, a phobl ddrwg yn gwneud y drygioni sydd wedi’i storio yn eu calonnau nhw. Mae beth mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sydd yn eu calonnau nhw.
Luc 6:39-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Adroddodd hefyd ddameg wrthynt: “A fedr y dall arwain y dall? Onid syrthio i bydew a wna'r ddau? Nid yw disgybl yn well na'i athro; ond wedi ei lwyr gymhwyso bydd pob un fel ei athro. Pam yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill, a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun? Sut y gelli ddweud wrth dy gyfaill, ‘Gyfaill, gad imi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad di’, a thi dy hun heb weld y trawst sydd yn dy lygad di? Ragrithiwr, yn gyntaf tyn y trawst allan o'th lygad dy hun, ac yna fe weli yn ddigon eglur i dynnu'r brycheuyn sydd yn llygad dy gyfaill. “Oherwydd nid yw coeden dda yn dwyn ffrwyth gwael, ac nid yw coeden wael chwaith yn dwyn ffrwyth da. Wrth ei ffrwyth ei hun y mae pob coeden yn cael ei hadnabod; nid oddi ar ddrain y mae casglu ffigys, ac nid oddi ar lwyni mieri y mae tynnu grawnwin. Y mae'r dyn da yn dwyn daioni o drysor daionus ei galon, a'r dyn drwg yn dwyn drygioni o'i ddrygioni; oherwydd yn ôl yr hyn sy'n llenwi ei galon y mae ei enau yn llefaru.
Luc 6:39-45 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd ddameg wrthynt: a ddichon y dall dywyso’r dall? oni syrthiant ill dau yn y clawdd? Nid yw’r disgybl uwchlaw ei athro: eithr pob un perffaith a fydd fel ei athro. A phaham yr wyt ti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gad i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad, a thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan y trawst o’th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd. Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth drwg; na phren drwg yn dwyn ffrwyth da. Oblegid pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar berth yr heliant rawnwin. Y dyn da, o ddaionus drysor ei galon, a ddwg allan ddaioni; a’r dyn drwg, o ddrygionus drysor ei galon, a ddwg allan ddrygioni: canys o helaethrwydd y galon y mae ei enau yn llefaru.