Luc 6:37-38
Luc 6:37-38 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Peidiwch bod yn feirniadol o bobl eraill, ac wedyn wnaiff Duw mo’ch barnu chi. Peidiwch eu condemnio nhw, a chewch chi mo’ch condemnio. Os gwnewch faddau i bobl eraill cewch chi faddeuant. Os gwnewch roi, byddwch yn derbyn. Cewch lawer iawn mwy yn ôl – wedi’i wasgu i lawr, a’i ysgwyd i wneud lle i fwy! Bydd yn gorlifo! Y mesur dych chi’n ei ddefnyddio i roi fydd yn cael ei ddefnyddio i roi’n ôl i chi.”
Luc 6:37-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Peidiwch â barnu, ac ni chewch eich barnu. Peidiwch â chondemnio, ac ni chewch eich condemnio. Maddeuwch, ac fe faddeuir i chwi. Rhowch, ac fe roir i chwi; rhoir yn eich côl fesur da, wedi ei wasgu i lawr a'i ysgwyd ynghyd nes gorlifo; oherwydd â'r mesur y rhowch y rhoir i chwi yn ôl.”
Luc 6:37-38 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac na fernwch, ac ni’ch bernir: na chondemniwch, ac ni’ch condemnir: maddeuwch, a maddeuir i chwithau: Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, ac wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes: canys â’r un mesur ag y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn.